Yr Ysgol Cerddoriaeth yn y 7fed safle yn y DU
15 Hydref 2019
Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn y 7fed safle yn ôl Times Good University Guide 2020, gan ddal y safle hwn am yr ail flwyddyn.
Rydym wrth ein boddau’n dal ein safle ymhlith deg gorau’r DU am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Eleni, perfformion ni’n rhagorol o ran profiad y myfyrwyr ac ansawdd ein haddysg, gan ennill yr ail sgôr uchaf yn y DU yn y ddau faes.
Dangoswyd ein hymrwymiad i brofiad y myfyrwyr hefyd, wrth i ni gael 96% am foddhad cyffredinol y myfyrwyr yn ôl Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr eleni.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi perfformio’n dda hefyd, gan ddod yn y 34ain safle yn y DU.
Wrth sôn am ganlyniadau eleni, dywedodd yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: “Rwyf wrth fy modd yn gweld yr Ysgol yn cadw ei safle ymhlith y deg uchaf am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, gan fod hyn yn dangos pa mor rhagorol yw'r gwaith y mae ein staff yn ei wneud i roi’r profiad gorau posibl i’m myfyrwyr."