50% o blant Uganda ddim yn cael tri phryd o fwyd y dydd
15 Hydref 2019
Cafodd adroddiad sy’n dogfennu lefelau tlodi plant ac amddifadedd yn Uganda ei lansio’n ddiweddar yn Kampala. Drwy ddefnyddio data o Arolwg Cenedlaethol Cartrefi Uganda 2016/17, mae’r adroddiad yn amlinellu ehangder a natur y tlodi amlddimensiynol ymysg plant Uganda.
Canfuwyd bod dros hanner (56%) o blant Uganda yn ddifreintiedig o ran pedwar neu fwy o ‘bethau angenrheidiol yn nhyb y gymdeithas’, gan eu bod heb eitemau neu ddim yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau y mae’r rhan fwyaf o bobl Uganda yn credu eu bod yn angenrheidiol i blant gael bywyd o safon dderbyniol. Roedd hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, cael tri phryd o fwyd y dydd, gallu ymweld â chyfleuster iechyd pan maent yn sâl a fforddio meddyginiaeth a ragnodir, ac o leiaf dau bâr o esgidiau sy’n ffitio’n iawn.
Roedd plant gwledig ar eu colled yn arbennig, fel yr oedd y plant yng ngogledd a gorllewin y wlad. Mae’r adroddiad yn dangos nad yw un o bob dau o blant yn cael tri phryd y dydd, nid oedd tri chwarter yn berchen ar eu gwely eu hun, ac nid oes gan bron traean sebon neu’r adnoddau golchi sydd eu hangen i gadw’n lân.
Wrth archwilio anghenion addysgiadol, canfu’r adroddiad nad oedd 43% o’r holl blant yn gallu darllen neu ysgrifennu, gyda’r ffigur mor uchel ag 84% mewn rhai ardaloedd. Ymhlith y rhai hynny a gafodd eu nodi fel plant sy’n dlawd mewn mwy nag un dimensiwn, ni allai 73% fforddio lifrau ysgol ac roedd diffyg teganau neu gemau addysgiadol neu rywle i astudio yn eu cartrefi ar 89%.
Mae’r adroddiad yn ganlyniad i brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Ystadegaeth Uganda (UBoS), Prifysgol Caerdydd, UNICEF Uganda, Sefydliad Tlodi Bryste a’r Ganolfan Ymchwil Polisi Economaidd.
Nododd Dr Shailen Nandy o Brifysgol Caerdydd, ac un o gyd-awduron yr adroddiad: “Mae’r gwaith hwn gydag UBoS, UNICEF Uganda ac eraill yn dangos bod gormod o lawer o blant yn parhau i brofi amddifadedd difrifol rhag eu hanghenion mwyaf sylfaenol; mae’r amddifadedd hwn yn tarfu ar eu hiawnderau cymdeithasol ac economaidd, sydd wedi’u hamlinellu’n glir yng Nghyfansoddiad Uganda. Mae’r defnydd o fethodoleg arloesol, y Dull Cydsyniol, wedi arwain at ddiffiniad democratig a mesur o dlodi, y dylai llunwyr polisïau fod yn ymwybodol ohono. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canlyniadau o’r astudiaeth fwyaf erioed mewn un wlad sydd wedi defnyddio’r Dull Cydsyniol, ac mae’n dangos sut mae Uganda’n arwain y ffordd o ran defnyddio dulliau newydd i asesu tlodi amlddimensiynol a mynd i’r afael ag e.”
Nododd Dr Pomati, sydd hefyd yn un o'r cyd-awduron: "O ystyried yr ymrwymiad presennol i dargedau tlodi Nodau Datblygu Cynaliadwy, rydym yn dadlau y dylid rhoi sylw i sut y gellir sicrhau consensws ynghylch cyfreithlondeb dangosyddion tlodi, yn hytrach na chanolbwyntio'n llwyr ar gyfuno'r rhain mewn ffigwr pennawd.”