Cynnydd mewn casineb a fynegir ar-lein yn arwain at fwy o droseddau yn erbyn lleiafrifoedd
15 Hydref 2019
Yn ôl astudiaeth, mae cynnydd mewn mynegi casineb ar y cyfryngau cymdeithasol yn arwain at fwy o droseddau yn erbyn lleiafrifoedd mewn bywyd go iawn.
Mae academyddion o brosiect LabordyGwrthGasineb Prifysgol Caerdydd wedi casglu data troseddu a gofnodwyd yn Llundain dros gyfnod o wyth mis i ddadansoddi p'un a oedd cyswllt sylweddol rhyngddynt.
Mae eu canlyniadau yn dangos wrth i nifer y "trydariadau o gasineb" – sy'n cael eu hystyried yn atgas o ran hil, ethnigrwydd neu grefydd - o un lleoliad gynyddu, mae nifer y troseddau yn cynyddu hefyd – a oedd yn cynnwys trais, aflonyddu a difrod troseddol.
Ychwanegodd ymchwilwyr y gallai algorithm yn seiliedig ar eu dulliau helpu'r heddlu i ragweld ac atal pigynnau mewn troseddau yn erbyn lleiafrifoedd drwy ddyrannu mwy o adnoddau i ardaloedd penodol.
Dywedodd Matthew Williams, Cyfarwyddwr y LabordyGwrthGasineb: "Dyma astudiaeth gyntaf y DU i ddangos cysylltiad cyson rhwng casineb a fynegir ar Twitter sy'n targedu hil a chrefydd, a thramgwyddau ar sail hil a chrefydd sy'n digwydd all-lein.
"Mae ymchwil flaenorol eisoes wedi dod i'r casgliad bod digwyddiadau mawr yn gallu sbarduno gweithredoedd o gasineb. Ond mae ein dadansoddiad yn cadarnhau bod y cysylltiad yn bodoli hyd yn oed yn absenoldeb digwyddiadau o'r fath.
"Mae'r ymchwil yn dangos bod annhegwch casineb ar-lein yn rhan o broses ehangach o niwed sy'n gallu dechrau ar y cyfryngau cymdeithasol a throsglwyddo i'r byd go iawn."
Datblygodd gwyddonwyr cyfrifiadurol ddeallusrwydd artiffisial i ganfod 294,361 o negeseuon "casineb" ar Twitter yn ystod cyfnod o wyth mis rhwng Awst 2013 ac Awst 2014. Hidlwyd cyfanswm o 6,572 o droseddau hiliol a chrefyddol o ddata'r heddlu hefyd. Rhoddwyd y ffigurau hyn, yn ogystal â data'r cyfrifiad, mewn i un o 4,720 o ardaloedd daearyddol Llundain i alluogi ymchwilwyr i ddod o hyd i dueddiadau.
Ychwanegodd yr Athro Williams, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Tan yn ddiweddar, nid yw difrifoldeb mynegiadau o gasineb ar-lein wedi'i gydnabod yn llawn. Mae'r ystadegau hyn yn profi na ddylid anwybyddu gweithgareddau sy'n mynd rhagddynt yn y byd rhithwir.
"Casglwyd y data a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon cyn i fawrion y cyfryngau cymdeithasol gyflwyno polisïau mynegi casineb llym. Ond yn hytrach na diflannu, byddem yn disgwyl i fynegiadau o gasineb symud i blatfformau cudd. Mewn amser, bydd ein hatebion gwyddor data yn ein galluogi i ddilyn y casineb lle bynnag mae'n mynd."
Mae'r LabordyGwrthGasineb yn ganolfan fyd-eang ar gyfer data a gwybodaeth am fynegi casineb a throseddau casineb. Gan ddefnyddio dulliau gwyddor data, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI) moesegol, cafodd y fenter ei sefydlu er mwyn mesur ac atal casineb ar-lein ac all-lein.
Mae'r Dangosfwrdd Mynegi Casineb Ar-lein wedi'i ddatblygu gan academyddion gyda phartneriaid polisi er mwyn achub y blaen ar achosion o droseddau casineb ar y strydoedd. Mae wedi'i sefydlu gydag arian gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn ogystal ag Adran Cyfiawnder yr Unol Daleithiau. Mae wedi cael cyfanswm o £1,726,841 o gyllid dros bum prosiect parhaus.
Mae Hate in the Machine: Anti-Black and Anti-Muslim Social Media Posts as Predictors of Offline Racially and Religiously Aggravated Crime wedi'i gyhoeddi yn y British Journal of Criminology ac ar gael yma.