Dechrau'r treial probiotegau yn erbyn heintiau
1 Rhagfyr 2015
Prosiect £1.8m yn edrych ar sut y gall probiotigau atal heintiau a lleihau'r defnydd o wrthfiotigau gyda phreswylwyr cartrefi gofal
Mae'r Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol
Caerdydd, mewn partneriaeth â Phrifysgol Rhydychen, ar fin dechrau astudiaeth
gwerth £1.8m i weld a all ychwanegion probiotigau leihau nifer yr heintiau
ymhlith preswylwyr cartrefi gofal er mwyn ceisio defnyddio llai o wrthfiotigau
gyda'r grŵp risg uchel hwn.
'Bacteria da' sy'n gallu bod o les wrth eu cymryd fel ychwanegion yw
probiotigau.
Heintiau yw'r rheswm mwyaf cyffredin pam mae'n rhaid i breswylwyr cartrefi
gofal fynd i'r ysbyty, ac
mae ymchwil blaenorol wedi dangos bod y preswylwyr hyn yn defnyddio llawer mwy
o wrthfiotigau o gymharu â phawb arall, gan olygu eu bod mewn perygl o
ddatblygu ymwrthedd i gyffuriau gwrthfiotig.
Gall yr ymwrthedd hwn ledaenu i ysbytai a'r gymuned - gan leihau
effeithiolrwydd y cyffuriau pwysig hyn wrth ymladd yn erbyn heintiau cyffredin.
Bydd yr ymchwilwyr yn recriwtio 330 o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghaerdydd
a Rhydychen ac yn rhoi ychwanegion dyddiol o brobiotigau Lactobacillus
rhamnosus, a Bifidobacterium animalis subsp. lactis, iddynt ochr yn ochr â phlasebo, dros gyfnod o 12 mis.
Byddant yn asesu cyfanswm nifer y diwrnodau ar wrthfiotigau ar gyfer clefydau
heintus cyffredin, gan gynnwys salwch tebyg i ffliw, heintiau'r llwybr wrinol,
a heintiau ar y croen a gastro-berfeddol, yn ogystal â'u hymateb i'r brechlyn
ffliw.
Ariennir y prosiect gan y Rhaglen Gwerthuso Effeithiolrwydd a Mecanwaith (EME),
sy'n bartneriaeth rhwng y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) a'r Sefydliad
Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd.
Arweinir yr ymchwil gan Christopher Butler, sy'n feddyg teulu i Fwrdd Iechyd Prifysgol
Cwm Taf ac yn Athro Gofal Cychwynnol yn Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Cychwynnol
Nuffield ym Mhrifysgol Rhydychen. Dywedodd:
"Mae'r gwrthfiotigau defnyddiol ac effeithiol y mae meddygon teulu yn eu
defnyddio i drin heintiau cyffredin o dan fygythiad oherwydd ymwrthedd cynyddol
y boblogaeth i gyffuriau.
"Mae preswylwyr cartrefi gofal yn cael llawer mwy o wrthfiotigau na'r
boblogaeth yn gyffredinol gan eu bod yn fwy agored i heintiau oherwydd eu
himiwnedd gwan, yn byw'n agos at ei gilydd ac yn dioddef sawl salwch. Maent yn
aml yn gorfod mynd i'r ysbyty pan mae'r cyffuriau'n rhoi'r gorau i weithio.
"Heblaw am frechu a hylendid da, prin iawn yw'r ffyrdd pendant o atal
heintiau ymhlith preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal - felly, mae probiotigau'n
faes pwysig i'w dargedu wrth geisio brwydro yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau.
Dylai ein hastudiaeth ateb y cwestiwn p'un a yw probiotigau dyddiol yn atal
heintiau ai peidio.
"Os ydynt yn llwyddiannus, gallai'r probiotigau rhad a diogel hyn wella
ansawdd bywyd a chynnwys ymwrthedd i wrthfiotigau. Bydd yn helpu'r garfan
gynyddol hon o'r boblogaeth sy'n agored i niwed rhad drwy warchod
effeithiolrwydd y cyffuriau gwrthfiotig fydd ar gael ar ein cyfer yn y
dyfodol."
Bacteria byw yw Lactobacillus rhamnosus and Bifidobacterium
animalis subsp. Cawsant eu dewis ar gyfer yr ymchwil oherwydd eu bod,
gyda'i gilydd, yn gwella imiwnedd a gallant leihau hyd clefydau heintus
cyffredin. Fodd bynnag, prin fu'r ymchwil hyd yma i gefnogi'r defnydd o
brobiotigau gyda phreswylwyr cartrefi gofal. Bydd yr astudiaeth hon yn llenwi'r
bwlch pwysig hwn.
Mae'r astudiaeth yn rhan o fuddsoddiad mwy sy'n werth dros £15.8m ar gyfer
ymchwil sy'n mynd i'r afael â heintiau sydd ag ymwrthedd i gyffuriau, gan y
Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) - cangen ymchwil y GIG.
Mae heintiau sydd ag ymwrthedd i gyffuriau yn fygythiad mawr i ddyfodol gofal
iechyd. Erbyn 2050, gallai 10 miliwn o bobl i farw'n ddiangen bob blwyddyn o
ganlyniad i heintiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau fel MRSA, sepsis a
mycobacteriwm twbercwlosis sy'n gallu gwrthsefyll sawl cyffur.