Hwb o £4.6m i ymchwil biofeddygol
1 Rhagfyr 2015
Cynghrair GW4 yn cael arian ar gyfer partneriaeth hyfforddiant doethurol newydd
Bydd dyfodol
ymchwil biofeddygol yn y DU yn cael hwb hanfodol yn sgîl rhaglen hyfforddiant
PhD cydweithredol newydd gwerth £4.6m.
Bydd y wobr newydd, sydd wedi'i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) yn
bennaf, yn ariannu dros 50 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig dros y tair blynedd
nesaf.
Mae G4W yn dod â Phrifysgolion Caerdydd,
Caerfaddon, Bryste a Chaerwysg ynghyd. Mae'n annog ymchwil rhyngddisgyblaethol
ar draws cronfa eang o academyddion i geisio mynd i'r afael â rhai o broblemau
mwyaf cymdeithas.
Bydd rhaglen newydd, Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol MRC BioMed GW4,
yn hyfforddi ôl-raddedigion ymchwil mewn tri phrif faes: niwrowyddoniaeth ac
iechyd meddwl; heintiau, imiwnedd a thrwsio; ac iechyd y boblogaeth.
Bydd pwyslais cryf hefyd ar fynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol mewn
meysydd fel sgiliau rhyngddisgyblaethol a meintiol, a methodoleg in
vivo. Bydd y garfan gyntaf yn dechrau eu hyfforddiant yn 2016.
Wrth siarad am y wobr, dywedodd yr Athro Colin Dayan, Cyfarwyddwr Academaidd y
Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol newydd:
"Mae'r rhaglen newydd yn unigryw yn y modd y mae'n galluogi myfyrwyr i
fanteisio ar gryfderau ymchwil cyfunol, arbenigedd hyfforddiant ac adnoddau
pedair prifysgol ymchwil-ddwys ragorol, ac mae'n rhoi pwyslais enfawr ar
weithio'n rhyngddisgyblaethol.
"Drwy gydweithio, byddwn yn cynnig cyfleoedd ymchwil eithriadol i'n
myfyrwyr, ac yn rhoi iddynt y sgiliau sydd eu hangen i fynd i'r afael â rhai
o'r heriau anoddaf ym maes ymchwil biofeddygol."
Dywedodd Guy Orpen, Rhag Is-Ganghellor Prifysgol Bryste a Chadeirydd Bwrdd GW4:
"Mae lansio Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol MRC BioMed GW4 yn ychwanegu at enw da GW4 am sut mae'n cydweithio i roi hyfforddiant doethurol o safon ac ar raddfa eang.
"Drwy gydweithio, gallwn gynnig cyfleoedd i'r don nesaf o ymchwilwyr na allwn eu cynnig ar ein pen ein hunain, gan ddenu'r bobl orau i'n prifysgolion.
"Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol MRC BioMed GW4 yn
enghraifft wych o fanteision cydweithio, a bydd yn datblygu myfyrwyr fydd yn
llwyddo yn y byd academaidd a diwydiant."
Bydd cwricwlwm y rhaglen hyfforddiant yn cynnwys tair elfen: sgiliau ymchwil;
datblygiad proffesiynol a gyrfaol; a chyfleoedd i ehangu gorwelion.
Caiff myfyrwyr eu hannog i ymgymryd â lleoliadau, ymweliadau ymchwil,
interniaethau ymgysylltu cyhoeddus, yn ogystal â'r cyfle i ennill profiad
clinigol.
Mae Cynghrair GW4 eisoes yn cynnal chwe phartneriaeth hyfforddiant doethurol.
Gyda thros 8,000 o ymchwilwyr ôl-raddedig a throsiant blynyddol cyfunol o dros
£1bn, mae'r gynghrair yn cynnig amgylchedd ymchwil enfawr ac o safon uchel.
Mae MRC wedi cyfrannu £3.3m i'r rhaglen newydd, ac mae sefydliadau o fewn GW4
wedi ymrwymo £1.3m yn ychwanegol.