Ymweliad brenhinol
1 Rhagfyr 2015
Bydd Parc Iechyd Prifysgol integredig modern cynta'r wlad yn croesawu Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ddydd Mawrth 15 Rhagfyr, 2015.
Agorwyd Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie yn 2012 ym Merthyr Tudful ac mae'n mynd i'r afael â rhai o'r problemau iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi bwrw gwreiddiau dwfn mewn cymunedau yng nghymoedd de Cymru.
Mae'r cyfleuster £35 miliwn yn unigryw o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o dan un to, gan sicrhau bod y cyfleusterau gorau ar gael yn yr ardaloedd lle mae pobl eu hangen fwyaf.
Mae'r safle hefyd yn ymfalchïo yn ei Ganolfan Academaidd fodern gwerth £2.8 miliwn a agorodd ei drysau i fyfyrwyr meddygol ym mis Ionawr eleni.
Adeiladwyd y Ganolfan Academaidd mewn ymateb i weledigaeth gyffredin rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Phrifysgol Caerdydd i sefydlu canolfan addysgu ac ymchwil ar gyfer hyfforddeion meddygol israddedig ym Merthyr Tudful gyda phwyslais cryf ar feddygaeth gymunedol a chysylltiad uniongyrchol â chleifion.
Bellach mae rhwng 60 a 90 o fyfyrwyr meddygol o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd yn dod drwy ei drysau bob wythnos i ddatblygu eu sgiliau drwy gael profiad ymarferol o leoliadau gofal yn ardaloedd Merthyr Tudful a Chwm Cynon.
Dywedodd yr Athro John Bligh, Deon Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae'r Ganolfan Academaidd unigryw yn dwyn ynghyd yr arfer gorau ym maes darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn y gymuned, gydag addysg fodern ar ffurf cyswllt cynnar â chleifion i fyfyrwyr gofal iechyd meddygol ac eraill. Bydd Ei Uchelder Brenhinol yn cwrdd â rhai o'r Cleifion Hyfforddi Gwirfoddol sy'n dod i helpu myfyrwyr gyda'u dysgu drwy ddarparu astudiaethau achos go iawn o gyflyrau cronig a chymhleth.
"Drwy ddysgu yn y lle y mae cleifion yn byw ac yn gweithio ynddo, gall myfyrwyr ymchwilio i berthnasedd diwylliant, iaith, a hanes i les pobl a phoblogaethau. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i integreiddio eu profiad i'w datblygiad eu hunain fel meddygon ar gyfer y dyfodol. Mae dysgu i barchu a gwerthfawrogi pobl o bob cefndir, ymgysylltu â hwy a chael eu hysbrydoli ganddynt yn ffactor allweddol o ran dewis gyrfa yn y dyfodol.
"Mae'r myfyrwyr yn dysgu eu gwyddor, nid yn unig yn labordai a darlithfeydd y brifysgol ond hefyd, ac yn hollbwysig, yn y gymuned ehangach lle mae modd gweld effeithiau daearyddiaeth, tai, deiet, a thlodi yn uniongyrchol."
Dywedodd Syr Mansel Aylward: "Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a chefnogi gwasanaethau gofal sylfaenol i wella iechyd y cyhoedd yn ogystal â gweithio gyda'n cymunedau i'w helpu i wella eu hiechyd a'u lles."
Bydd Ei Uchelder Brenhinol yn cael cyfle i gwrdd â staff a chleifion lleol sydd wrth wraidd y cyfleusterau newydd.
Aeth Dr Christopher Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ymlaen i ddweud: "Bydd Ei Uchelder Brenhinol yn gallu gweld sut mae Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie yn llwyfan i herio'r ddeddf gofal wrthgyfartal drwy ddwyn ynghyd yr holl elfennau iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi pobl a'u helpu i ddatblygu bywydau iachach.
"Gyda'r cyfleoedd hyn, mae modd gwella gofal iechyd yn y dyfodol ar gyfer ein cymunedau ar draws cymoedd y de, a bydd hynny'n sicr o ddigwydd.
"Bydd Ei Uchelder Brenhinol hefyd yn gweld sut yr ydym ni, ynghyd â Phrifysgol Caerdydd, yn arwain y ffordd wrth hyfforddi meddygon ifanc y dyfodol.
"Mae'r cyfleuster addysgu yn estyn allan at fyfyrwyr meddygol yn ystod dwy flynedd gyntaf eu hyfforddiant meddygol.
"Mae'n agor ffenestr iddynt brofi yn ystod eu blynyddoedd ffurfiannol anghenion, gwerthoedd a phleser gwasanaethu cymunedau ein cymoedd.
"Ni allaf feddwl am unman sy'n fwy cyffrous nac yn rhoi mwy o foddhad na darparu gofal sylfaenol a chymunedol o Barc Iechyd Prifysgol eiconig Keir Hardie yng nghalon y gymuned Merthyr Tudful. Mae'n lle sy'n gyforiog o addysg ac iachâd."
Ychwanegodd Syr Mansel Aylward: "Mae Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie yn cynnig cyfleoedd i'r rhai sydd am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru.
“Mae ein tîm iechyd cyhoeddus lleol yn gweithio gyda'r gymuned ym Merthyr Tudful ac ar ei chyfer i ddatblygu ymddygiad iach ac i gefnogi pobl a chanddynt anghenion cymhleth. Mae'r ganolfan academaidd hefyd yn allweddol yn ein taith i wella iechyd a lles, drwy gefnogi datblygiad staff gofal iechyd yn y dyfodol. "