Mae tôn y llais yn hanfodol wrth sgwrsio gyda phobl ifanc yn eu harddegau
27 Medi 2019
Mae ymchwilwyr wedi darganfod fod pobl ifanc yn eu harddegau’n llai tebygol o gydweithio a rhoi ymdrech mewn ymateb i geisiadau eu mam os bydd y rhain yn cael eu mynegi mewn tôn llais awdurdodol
Mae astudiaeth newydd wedi dangos bod siarad â mab neu ferch mewn tôn sy’n rhoi pwysau arnynt hefyd yn dod ag ystod o emosiynau negyddol a llai o deimladau o agosatrwydd.
Yr astudiaeth arbrofol newydd oedd yn cynnwys dros 1,000 o bobl ifanc 14-15 oed yw’r un gyntaf i edrych ar sut mae pobl ifanc yn ymateb i dôn y llais wrth dderbyn cyfarwyddiadau gan eu mamau, hyd yn oed pan fydd y geiriau penodol a ddefnyddir yn union yr un peth.
Dywedodd awdur arweiniol yr astudiaeth, Dr Netta Weinstein, o Brifysgol Caerdydd: “Os bydd rhieni eisiau i sgyrsiau gyda’u plant yn eu harddegau gael y budd mwyaf, mae’n bwysig cofio defnyddio tonau llais cefnogol. Mae’n hawdd i rieni anghofio, yn enwedig os ydyn nhw eu hunain yn teimlo o dan straen, yn flinedig, neu o dan bwysau.”
Dangosodd yr astudiaeth fod y pobl ifanc dan sylw yn fwy tebygol o ymgysylltu â chyfarwyddiadau a oedd yn cyfleu ymdeimlad o anogaeth a chefnogaeth ar gyfer hunan-fynegiant a dewis.
Mae’n bosibl y gallai’r canlyniadau, er eu bod o ddiddordeb amlwg i rieni, fod yn berthnasol hefyd i athrawon y gallai eu defnydd o iaith fwy ysgogol gael effaith ar ddysgu a lles disgyblion yn eu hystafelloedd dosbarth.
Roedd yr astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd heddiw, yn nghyfnodolyn Developmental Psychology, yn cynnwys 486 o fechgyn a 514 o ferched, 14-15 oed.
Yn yr arbrawf, cafodd pob un o’r bobl ifanc ei aseinio ar hap i grwpiau a fyddai’n clywed negeseuon yn union yr un fath yn cael eu dweud gan famau pobl ifanc mewn naill ai tôn llais awdurdodol, un a oedd cefnogi ymreolaeth, neu un niwtral.
Mae mynegiannau rheolaeth yn gosod pwysau ac yn ceisio cymell neu wthio gwrandawyr i weithredu. I’r gwrthwyneb, mae’r rhai sy’n mynegi ‘cefnogaeth i ymreolaeth’ yn cyfleu ymdeimlad o anogaeth
a chefnogaeth ar gyfer ymdeimlad gwrandawyr o ddewis a chyfle am hunanfynegiant.
Dywedodd pob un o’r mamau 30 o frawddegau oedd yn ymwneud â gwaith ysgol, gan gynnwys cyfarwyddiadau megis: “Mae’n amser mynd i’r ysgol nawr”, “byddi di’n darllen y llyfr hwn heno”, a “byddi di’n gwneud yn dda yn yr aseiniad hwn”.
Ar ôl clywed y negeseuon, gwnaeth pob disgybl arolwg gan ateb cwestiynau ynglŷn â sut byddai’n teimlo petai ei fam/ei mam ei hun wedi siarad ag ef yn y ffordd benodol honno.
Dangosodd y darganfyddiadau y gall tôn y llais a ddefnyddir gan famau gael effaith sylweddol ar ymatebion bwriad emosiynol, perthynol ac ymddygiadol plant yn eu harddegau.
Ar draws y rhan fwyaf o ddeilliannau, ymatebodd y bobl ifanc a wrandawodd ar famau yn gwneud datganiadau ysgogol mewn tôn llais awdurdodol mewn ffyrdd annymunol. I’r gwrthwyneb, cafodd tonau sy’n cefnogi ymreolaeth ymatebion cadarnhaol gan wrandawyr o’u cymharu â gwrando ar famau a ddefnyddiodd dôn llais niwtral i ynganu eu brawddegau ysgogol.
Ychwanegodd cyd-awdur yr astudiaeth Yr Athro Silke Paulmann, o Brifysgol Essex: “Mae’r canlyniadau hyn yn dangos yn dda pa mor bwerus yw ein llais a bod dewis y dôn gywir i gyfathrebu yn hanfodol ym mhob un o’n sgyrsiau.”
Bellach mae’r ymchwilwyr yn bwriadu mynd â’u gwaith gam ymhellach trwy ymchwilio i sut y gall tôn y llais effeithio ar ymatebion ffisiolegol, megis cyfraddau curiad y galon neu ymatebion dargludiant y croen, a pha mor hir y bydd yr effeithiau hyn yn para.
Ariannwyd yr astudiaeth gan Ymddiriedolaeth Leverhulme ac roedd yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Ghent a Phrifysgol Essex.