Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol digidol yn gallu ‘trawsnewid’ Cymru

27 Medi 2019

Launch review Phil Brown
(O’r chwith i’r dde): Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth; Yr Athro Phil Brown; Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, a Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Mae athro ym Mhrifysgol Caerdydd a arweiniodd adolygiad ledled Cymru o arloesedd digidol yn galw am ddiwygiadau pellgyrhaeddol i sicrhau trawsnewid economaidd ar gyfer dyfodol gwaith gwell.

Roedd yr Athro Phillip Brown, Athro Ymchwil Nodedig, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yn cadeirio Panel Arbenigol o arweinwyr busnes dylanwadol, academyddion, ymarferwyr ac entrepreneuriaid mewn arloesedd digidol.

Comisiynwyd yr Adolygiad o Arloesi Digidol gan Lywodraeth Cymru i archwilio'r cyfleoedd a'r heriau a ddaw yn sgil arloesi digidol a'u heffaith debygol yng Nghymru yn y dyfodol.

Cafodd yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n nodi pa gamau ymarferol a hirdymor y gall Cymru eu cymryd i wireddu heriau arloesi digidol a'r cyfleoedd maen nhw'n eu cyflwyno.

Rhagwelir y bydd datblygiadau mewn technoleg yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r ffordd yr ydym ni’n byw ac yn gweithio. Mae canfyddiadau’r adroddiad yn archwilio sut mae datblygiadau mewn awtomeiddio, roboteg, deallusrwydd artiffisial, rhyngrwyd y pethau a data ar raddfa fawr yn cael effaith.

Ymhlith argymhellion yr adolygiad mae'r posibilrwydd o sefydlu Sefydliad Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Cymru a chryfhau dadansoddiad ar y galw am sgiliau a chyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

Mae’r Panel Arbenigol yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru:

  • Gefnogi creu chwe Chlwstwr Arloesi Diwydiannol i ddatblygu Mapiau Trawsnewid Diwydiannol sy'n nodi cryfderau cyfredol ac arloesedd digidol posibl ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
  • Sefydliad Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Economi’r Dyfodol i helpu Cymru i leoli ei hun fel cenedl ddigidol fyd-eang a hwyluso dull mwy integredig o gymhwyso ymchwil flaengar mewn Deallusrwydd Artiffisial ledled Cymru.
  • Integreiddio'r gefnogaeth fusnes, sgiliau ac arloesi bresennol i ffurfio un broses ddiagnostig a thrawsnewid busnes, a sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru a'i hasiantaethau'r gallu arbenigol priodol i gefnogi anghenion trawsnewid y ddau ddiwydiant sy'n seiliedig ar wasanaeth.
  • Alinio Strategaeth Ryngwladol a gweithgareddau marchnata Llywodraeth Cymru ag egwyddorion Cymru 4.0 a'r chwe Chlwstwr Arloesi Diwydiannol, fel rhan o ddull sy'n edrych tuag allan i sicrhau y caiff gwaith ymgysylltu rhyngwladol Cymru ei gefnogi gan ddadansoddeg data mwy soffistigedig a gwybodaeth amser real a all nodi partneriaid a rhwydweithiau rhyngwladol posibl.
  • Cynnal ystod o ddiwygiadau gyda'r nod o adeiladu gallu o fewn addysg ôl-orfodol i gyflawni'r newid sylweddol sy'n ofynnol wrth baratoi ar gyfer gwaith mewn oes o ddysgu gydol oes.
  • Cynyddu Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yn sylweddol i gefnogi cyfres o arddangoswyr Mannau Clyfar Cymru gyda'r nod o brif ffrydio pensaernïaeth ddigidol newydd i ddarparu bywyd gwaith a chymunedol o ansawdd gwell.
  • Sefydlu Labordy newydd ar gyfer Work@Wales4.0 fel adnodd canolog sy’n rhoi cipolwg i’r diwydiant, y llywodraeth a phartneriaid cymdeithasol o dueddiadau'r dyfodol o ran technoleg a'i heffaith ar yr economi a gwaith.

Roedd tri o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn bresennol wrth lansio’r adroddiad yn Tramshed Tech, Caerdydd.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae'n amlwg y bydd arloesi digidol yn chwarae rhan enfawr wrth sicrhau nid yn unig bod tirwedd economaidd a gwaith Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol, ond ein bod yn manteisio ar gyfleoedd y mae technolegau newydd yn eu cyflwyno i barhau i adeiladu economi sy'n uchelgeisiol, yn arloesol ac yn gynhwysol i bawb.

“Hoffwn ddiolch i’r Athro Phillip Brown, ei Banel Arbenigol a’r holl sefydliadau ac unigolion am eu gwaith. Mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd wedi bod yn hanfodol o ran llywio’r adroddiad hwn, a byddaf yn ei ystyried yn ofalus iawn.”

Meddai’r Athro Phillip Brown: “Gall arloesi digidol drawsnewid pethau i Gymru, ond mae’n bwysig cofio nad yw technoleg yn ffawd.  Dim ond os ydym yn mabwysiadu ffordd wahanol o feddwl ac yn mentro gwneud pethau'n wahanol y gallwn harneisio dylanwad cadarnhaol arloesi digidol go iawn.

“Rwy’n gobeithio bod yr adroddiad hwn yn gatalydd i danio sgwrs genedlaethol am yr hyn y mae arloesi digidol yn ei olygu i bobl a chymunedau Cymru, nid dim ond busnesau arloesol uwch-dechnoleg y dyfodol.”

Mae Cymru eisoes yn gartref i rai o'r cwmnïau technoleg, seiber, fintech a lled-ddargludyddion mwyaf arloesol ac uchel eu parch yn y byd sy'n cynnig cyfle newydd i fusnesau Cymru fod ar flaen y gad wrth ddefnyddio technoleg i wella bywydau pobl.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.