Perfformiad cyntaf recordiadau Debussy
30 Tachwedd 2015
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd i lansio Cryno Ddisg newydd yn Neuadd Dewi Sant
Mae’r record diweddaraf gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd a’u harweinydd Mark Eager yn cynnwys y perfformiadau cyntaf o ddau waith gan Claude Debussy. Cafodd y cryno ddisg ei lansio'n swyddogol ddydd Sul 29 Tachwedd pan fydd y Gerddorfa a’r Corws Symffoni yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.
Nid oedd Debussy wedi gorffen Prélude à l'histoire de Tristan na No-Ja-Li ou Le Palais du Silence pan fu farw ym 1918. Ers hynny, mae Robert Orledge, arbenigwr blaenllaw am gerddoriaeth Ffrengig, wedi eu cwblhau a'u trefnu, a chawsant eu perfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd a Mark Eager ym mis Mawrth 2015 yn rhan o wŷl golau’r ddinas.
Mae’r darganfyddiadau newydd a chyffrous hyn yn digwydd ar yr un pryd â pherfformiad cyntaf yn y DU o ganeuon hudolus André Jolivet Poèmes intimes gyda'r unawdydd bariton Jeremy Huw Williams.
Y cryno ddisg hwn, yw'r ail brosiect y mae Prima Facie Records a Phrifysgol Caerdydd wedi bod yn cydweithio arno. Mae hefyd yn cynnwys y perfformiad cyntaf o waith newydd gan y cyfansoddwr Robert Fokkens o Dde Affrica, sy'n ddarlithydd mewn cyfansoddi yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Mae Ukuhamba kukufunda – To Travel is to Learn yn ystyried hunaniaeth ar lefelau personol a diwylliannol.
Dywedodd yr arweinydd Mark Eager, sydd wedi gweithio gyda’r Gerddorfa Symffoni ers 2008: "Roedd arwain ar gyfer y cryno ddisg hwn yn waith hynod ddiddorol a heriol, ond llwyddodd offerynwyr y Gerddorfa i fynd i'r afael yn llawn â'r dasg. Roedd cael y cyfle i recordio dau berfformiad newydd gan Debussy am y tro cyntaf yn fraint anhygoel - nid rhywbeth sy’n digwydd bob dydd!
"Mae caneuon Jolivet yn wirioneddol ryfeddol - yn bersonol ac yn fendigedig, gyda threfniant cerddorfaol wych; mae Jeremy yn cyfleu brwdfrydedd a dealltwriaeth drwy gydol y darnau. Mae Ukuhamba kukufunda yn fywiog, yn egnïol ac ar adegau yn fyddarol o bwerus! Cyfle i’r Gerddorfa fwynhau eu hunain.”
Gallwch brynu'r casgliad hwn o berfformiadau ar-lein ar wefan Prima Facie Records. Mae'r disgiau'n costio £10, a gallwch eu lawrlwytho'n llawn yn ddigidol am £6. Gallwch brynu traciau unigol hefyd.