Stone the Crows!
27 Tachwedd 2015
Academydd o'r Brifysgol yn dangos ei ffilm hir gyntaf am y tro cyntaf erioed
Bydd Tim Rhys, awdur o Gymru a Darlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dangos ei ffilm hir gyntaf am y tro cyntaf erioed yn sinema Cineworld Caerdydd, ddydd Llun 30 Tachwedd.
Mae'r ffilm gyffrous oruwchnaturiol, Crow, a gafodd ei hysgrifennu a'i gwneud yng Nghymru, yn seiliedig ar ddrama lwyfan wreiddiol Rhys, Stone the Crows.
Yr actor ifanc a thalentog o Gymru, Tom Rhys Harries, sydd yn y brif ran, ac mae'n ymddangos ochr yn ochr ag Andrew Howard (Taken 3), Nick Moran (Lock, Stock and Two Smoking Barrels) a Danny Webb (Alien 3). Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad Spinning Head hwn gan Wyndham Price.
Dechreua bywyd Crow ymhlith llwyth o deithwyr ar gyrion cymdeithas, a chaiff ei hel ymaith gan yr heddlu yn gyntaf, ac yna gan gangsters. Mae Crow wedi byw yn y coed fyth ers i'w lwyth gael eu symud yn dreisgar o'r fferm gerllaw gan y datblygwr diegwyddor, Tucker. Nawr, mae Tucker am gael ei grafangau ar y coed hefyd, ac fe wnaiff popeth yn ei allu i gael ei ffordd.
Mae Crow am amddiffyn y coed â'i fywyd. Yn y frwydr dilynol rhwng Tucker a Crow, nid yw Tucker yn sylweddoli ei fod yn ymladd dyn sydd â holl rym natur y tu ôl iddo. Mae Tucker a'i ddynion yn dysgu gwir ystyr arswyd yn y ddrama gyffrous, oruwchnaturiol a gwreiddiol hon.
Wrth weld ei waith yn symud o'r llwyfan i'r sgrin, meddai Tim: 'Bydd yn gyffrous iawn gweld fy ffilm hir gyntaf yn y sinema, yn enwedig gyda chast mor wych. Roedd yn deimlad od iawn sefyll yng nghoedwig Merthyr Mawr ychydig fisoedd yn ôl, yn gwylio dau o'r cymeriadau a ddyfeisiwyd gennyf yn dod yn fyw drwy waith caled Nick Moran ac Andrew Howard!"
Ni fydd gan Tim lawer o amser i fyfyrio ar lwyddiant y digwyddiad sgrinio BAFTA arbennig nos Lun, oherwydd bydd ei ddrama lwyfan ddiweddaraf, Touch Blue Touch Yellow, yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf nos Fawrth, yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter.
Mae Touch Blue Touch Yellow yn ddrama am awtistiaeth a gafodd ei chomisiynu'n arbennig. Cynhyrchwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Winterlight, ac mae'n dilyn Carl, oedolion ifanc awtistig, wrth iddo geisio deall anawsterau cymdeithasol y byd nad yw'n awtistig. Wrth chwilio am gyfeillgarwch ac ystyr wrth ddechrau ar ei fywyd fel oedolyn, mae taith Carl yn archwilio teimladau cyffredin o unigedd a dieithrwch, a'r gwrthdaro rhwng yr angen i berthyn, y pwysau i gydymffurfio a'r angen i fod yn dryw i chi'ch hun.
Mae Tim wedi tynnu ar brofiad teuluol o awtistiaeth wrth ysgrifennu'r ddrama newydd ac eglura: "Gwelaf Carl fel ffigur y dyn nodweddiadol, ond dyn sy'n digwydd bod yn awtistig. Mae'r themâu yn Touch Blue Touch Yellow, sef ceisio cyfeillgarwch ac ystyr mewn bywyd, ac effeithiau dinistriol unigrwydd, yn themâu cyffredinol a gaiff eu dwysáu ymhlith pobl ar y sbectrwm, oherwydd eu hanhawster i ddeall awgrymiadau cymdeithasol a'u hanallu i ddweud a deall y celwyddau bach sy'n rhan mor fawr o'n sgyrsiau arferol."
Mae'r dramodydd a'r ysgrifennwr sgriptiau proffesiynol, Tim Rhys, wedi ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y theatr, radio a theledu. Mae'n addysgu Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol. Caiff Touch Blue Touch Yellow ei pherfformio yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter rhwng dydd Mawrth 1 Rhagfyr a dydd Sadwrn 5 Rhagfyr. Mae tocynnau ar gael ar wefan Chapter. Bydd Crow yn cael ei ryddhau'n fwy eang mewn sinemâu ddechrau 2016.