Lansio cais i greu clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd
27 Tachwedd 2015
Mae partneriaeth rhwng maes diwydiant a'r byd academaidd, i greu clwstwr technoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd, wedi'i lansio yng Nghymru
Mae'n bosibl y bydd y clwstwr yn creu 5,000 o swyddi newydd yng Nghymru, ac mae'n seiliedig ar fenter ar y cyd rhwng IQE plc – y prif gyflenwr byd-eang ar gyfer uwch-wafferi lled-ddargludo a Phrifysgol Caerdydd.
Mae Canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ceisio datblygu a masnacheiddio technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd i’r genhedlaeth nesaf. Defnyddir yr elfennau uwch-dechnoleg mewn llawer o rwydweithiau cyfathrebu a dyfeisiau megis ffonau clyfar a llechi.
Cefnogir y Ganolfan gan y Sefydliad ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – cyfleuster ymchwil newydd pwrpasol Prifysgol Caerdydd i ddatblygu a manteisio ar ymchwil yn y maes hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £12m i adeiladu, gosod, a phrynu offer ar gyfer y Sefydliad.
Wrth lansio'r Ganolfan yng Nghastell Caerdydd, dywedodd Edwina Hart, Gweinidog dros yr Economi a Gwyddoniaeth: “Mae nifer o gyrff allanol wedi cydnabod bod ein cefnogaeth yn gatalydd ar gyfer datblygu clwstwr diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd ar raddfa Ewropeaidd a chyrhaeddiad byd-eang a fydd yn creu màs critigol yn y gadwyn gyflenwi. Mae’r Sefydliad yn gonglfaen ar gyfer prosiect gwirioneddol drawsnewidiol a bydd yn sicrhau bod Cymru yn cael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu fel arweinydd yn y dechnoleg arbenigol a chyffroes yma.
Dywedodd Yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu: "Mae cael £12m yn gam pwysig yn natblygiad y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Bydd cyfleusterau o'r radd flaenaf a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn harneisio rhai o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw'r maes i ddatblygu technolegau cyfoes sy'n gallu newid ein ffordd o fyw."
Mae strategaeth twf economaidd y Comisiwn Ewropeaidd i ailddiwydiannu yr UE, "Horizon 2020", yn amlygu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd fel un o'r brif dechnolegau ar gyfer cynyddu cynhyrchiant a sbarduno twf economaidd. Bydd yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau yn y DU (a rhanbarthau ehangach yn yr UE) sy'n ceisio adennill y farchnad gweithgynhyrchu technoleg werthfawr oddi wrth cystadleuwyr yn Nwyrain Asia.
Mae pedwar clwstwr sylweddol sy'n seiliedig ar dechnolegau silicon eisoes yn bodoli yn Ewrop, ond y Ganolfan hon yng Nghaerdydd fydd y gyntaf i ddatblygu potensial cyffrous technoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
Yn ôl Dr Drew Nelson, Prif Weithredwr IQE: "Lled-ddargludyddion yw hanfod y byd modern. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod llawer o'r dechnoleg hon yn cael ei datblygu a’i gweithgynhyrchu yng Nghymru. Un o'r problemau mawr sy'n ymwneud â thechnolegau modern yn y DU heddiw yw bod llawer wedi'i fuddsoddi yn y gwaith ymchwil cynnar, ond ei fod yn aml yn cael ei ddatblygu rhywle arall. "Dyma pam rydym am greu clwstwr o led-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, ac mae paratoi Prifysgol Caerdydd a rhoi seilwaith academaidd y DU ar waith yn creu sail gref iawn er mwyn ein galluogi i ffurfio'r clwstwr hwn."
Mae'r Sefydliad yn rhan o fuddsoddiad o £300m gan Brifysgol Caerdydd mewn canolfannau ymchwil ac arloesedd newydd, ac mae ei botensial eisoes wedi'i gydnabod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sydd wedi buddsoddi dros £29m tuag at ei greu.