Mathemateg mewn meddygaeth yn ennill gwobr THE
27 Tachwedd 2015
Ymchwil arloesol sy'n rhoi mathemateg wrth wraidd meddygaeth yn ennill gwobr arloesedd Times Higher Education
Mae prosiect o dan arweiniad y Brifysgol, sy'n defnyddio modelau mathemategol i ddatgelu'r rhesymau cymhleth am oedi ar wardiau ysbytai, i leihau amseroedd aros ac i achub bywydau, wedi ennill gwobr Times Higher Education (THE) uchel ei bri.
Mae'r prosiect 'Mathemateg yn Arbed Bywydau' wedi ennill gwobr THE ar gyfer y categori Cyfraniad Rhagorol at Arloesedd a Thechnoleg, sy'n cydnabod ac yn hyrwyddo datblygiadau allweddol a allai wella gweithrediadau masnachol neu sector cyhoeddus yn sylweddol.
Enillodd y tîm y wobr mewn seremoni wobrwyo yng Ngwesty Grosvenor House yn Llundain neithiwr (26 Tachwedd).
O dan arweiniad yr Athro Jeff Griffiths a'r Athro Paul Harper o'r Ysgol Mathemateg, astudiodd y tîm giwiau a llif cleifion yn agos er mwyn datgelu'r rhesymau cymhleth dros oedi ar wardiau ysbytai ac mewn unedau damweiniau ac achosion brys.
Yn draddodiadol, mae ysbytai wedi mesur galw yn ôl hyd rhestrau aros neu nifer yr achosion a gaiff eu cyfeirio. Ond dim ond rhif y mae'r wybodaeth hon yn ei roi, ac nid yw'n rhoi gwybodaeth benodol i weithwyr iechyd proffesiynol am anghenion cleifion o ran triniaeth.
Mae'r modelau mathemategol a ddatblygwyd gan y tîm yn helpu i bennu anghenion pob claf, a pha mor frys yw eu hachosion. Drwy gael gafael ar y wybodaeth gymhleth ac amrywiol hon, mae'r modelau mathemategol yn tywys y cleifion at y ddarpariaeth gofal iechyd mwyaf effeithiol.
Drwy fodelu efelychiadau o achosion go iawn, fel llif cleifion cymhleth ac anodd ei ragweld, gall rheolwyr newid eu prosesau ar sgrin cyn gwneud hynny go iawn, gan eu galluogi i edrych ar fesurau perfformiad gwahanol a rhagfynegi beth allai ddigwydd pe bai pethau'n cael eu newid.
Nid oes neb wedi ymgorffori modelu mathemategol i ofal iechyd yn y DU o'r blaen, a defnyddiwyd data o'r modelau hyn gan systemau iechyd yng Nghymru a Lloegr i gwtogi amseroedd aros, llywio'r broses o lunio polisïau, gwella amrywiaeth eang o wasanaethau, ac achub bywydau yn y pen draw.
O
ganlyniad i'r modelu, gwnaethpwyd arbedion effeithlonrwydd net o £1.6M y
flwyddyn yn yr adran achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae gofal i gleifion ac adnoddau ysbyty wedi gwella'n sylweddol yn Ysbyty
Rookwood hefyd, sef canolfan adsefydlu niwrolegol o bwys yn ne Cymru. Helpodd y
modelau yn yr Uned Strôc Uwch-Aciwt yn Ysbyty St George yn Ne Llundain i leihau
60% ar farwolaethau ymhlith cleifion strôc.
Yn ogystal, o ganlyniad uniongyrchol i’r cydweithio hwn, mae dros 200 o staff
GIG Cymru wedi cael hyfforddiant ar dechnegau ystadegol a modelu, ac mae cwrs
hyfforddiant cenedlaethol yn cael ei ddatblygu gyda Phrifysgol Caerwysg.
Os caiff ei gyflwyno ar raddfa ehangach, disgwylir y gellir ailadrodd
llwyddiannau'r prosiectau presennol. Mae arbenigwyr yn amcangyfrif y gallai
modelu dorri hyd at 20 y cant ar gostau'r GIG.