Lleoedd am ddim yn Hanner Marathon y Byd
27 Tachwedd 2015
Bydd pum cant o redwyr amatur yn cael cyfle i redeg ym Mhencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd, Caerdydd 2016, yn rhad ac am ddim
Fel rhan o raglen cyfrifoldeb cymdeithasol 'Athletics for a Better World' Cymdeithas Ryngwladol y Ffederasiynau Athletau (IAAF), mae 500 o leoedd, werth bron i £30,000, wedi cael eu prynu er mwyn eu dosbarthu'n rhad ac am ddim.
Cânt eu cynnig i gymunedau yng Nghymru a gaiff eu heithrio'n draddodiadol o gyfleoedd o'r fath, ac i redwyr newydd brwdfrydig a fyddai'n defnyddio'r profiad o hyfforddi ar gyfer y ras, a chwblhau'r ras yn 2016, i wella eu hiechyd a'u lles.
Mae'n rhan o ymrwymiad IAAF, Run 4 Wales, sy'n trefnu'r digwyddiad, a Phrifysgol Caerdydd, y prif noddwr, i hyrwyddo rhedeg fel gweithgaredd corfforol hygyrch a all wella iechyd pobl yn y tymor hir.
Yn ôl Llywydd IAAF, yr Arglwydd Seb Coe: "Yn 2014, lansiodd yr IAAF ei rhaglen cyfrifoldeb cymdeithasol, 'Athletau ar gyfer Byd Gwell' i ddatblygu a hyrwyddo athletau ledled y byd ac ysbrydoli newid cymdeithasol ar yr un pryd.
"Mae'n bleser gennym fod yn bartneriaid gyda'r Pwyllgor Trefnu Lleol a phrif noddwyr Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd Caerdydd IAAF. Dyma gyfle unigryw i 500 o bobl gael gwybod beth yw rhedeg a'u hysbrydoli i barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon.
"Drwy ysgogi prosiectau sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd, iechyd a chynhwysiant cymdeithasol, mae'r IAAF wedi ymrwymo i ddefnyddio athletau i helpu i wneud y byd yn lle gwell."
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Dyma gyfle gwych i bobl fod yn rhan o ddigwyddiad chwaraeon rhyngwladol.
"Rydym am gynnig y 500 o leoedd am ddim i bobl sydd, o bosibl, yn ystyried rhedeg am y tro cyntaf erioed. Hoffem weld pobl yn rhedeg nad ydynt erioed wedi ystyried unrhyw beth fel hyn o'r blaen, neu nad yw chwaraeon yn hygyrch iddynt oherwydd y gost neu ddiffyg cyfleusterau neu gefnogaeth, neu'r rheini sy'n cael trafferth cymell eu hunain.
"Bydd cyfle hefyd i redwyr gymryd rhan mewn prosiect ymchwil a gynhelir drwy Brifysgol Caerdydd. Bydd yr ymchwil yn monitro cynnydd y rhedwyr ac yn ymchwilio i ffyrdd o leihau anafiadau.
"Mae Prifysgol Caerdydd yn 5ed yn y DU am ansawdd ei gwaith ymchwil ac yn ail yn y DU am effaith ei gwaith ymchwil. Mae'n braf cael defnyddio ein harbenigedd i gefnogi'r rhedwyr hyn, yn enwedig gan mai'r Brifysgol yw prif noddwr Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd.
"Y gobaith yw y bydd y digwyddiad yn ysbrydoli llawer mwy o bobl i ddechrau rhedeg."
Caiff y lleoedd eu dosbarthu drwy'r cyfryngau cymdeithasol, drwy grwpiau rhedeg lleol a thrwy gysylltiadau gydag ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.
Yna, bydd Prifysgol Caerdydd yn defnyddio'r cynllun i ymchwilio i'r effaith ar y rheini sy'n hyfforddi ar gyfer y digwyddiad, a'u hymddygiad.
Yn ogystal â'r lleoedd rhedeg hyn sy'n rhad ac am ddim, bydd partner swyddogol IAAF, Adidas, yn cynnig 200 pâr o esgidiau chwaraeon i redwyr sy'n cymryd rhan yng nghynllun Athletics for a Better World.
I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Athletics for a Better World, a sut i wneud cais am un o'r lleoedd rhedeg hyn, ewch i www.cardiff2016.co.uk. Neu gallwch ddilyn y digwyddiad ar Twitter: @cardiff2016 a Facebook: IAAF/Cardiff University World Half Marathon Championships 2016.