Heriau morwrol byd-eang
25 Medi 2019
Mae arbenigwr cyfreithiol mewn polisïau llongau a chludiant rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd wedi gwneud cyflwyniad ar heriau morwrol byd-eang yn y Sefydliad Astudiaethau Strategol a Rhyngwladol (ISIS) ym Malaysia.
Gan siarad â dirprwyaeth o lunwyr polisi, asiantaethau llywodraethol, gweithwyr morwrol a llongau proffesiynol, canolbwyntiodd Dr Rawindaran Nair, Darlithydd yn yr Adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd, ar yr heriau a'r safbwyntiau strategol i Malaysia.
Yn dilyn geiriau o groeso gan Thomas Daniel, Uwch Ddadansoddwr yn ISIS Malaysia, esboniodd Dr Nair sut mae trafodaethau ynghylch rheoli adnoddau'r cefnfor yn canolbwyntio fwyfwy ar fuddiannau byd-eang fel masnach a chynaladwyedd.
Ffocws byd-eang cynyddol
Yn wyneb yr heriau mawr hyn, rhannodd Dr Nair syniadau newydd am gyfranogiad sefydliadol byd-eang gwladwriaethau, fel Malaysia, drwy offerynnau rhyngwladol fel UNCLOS 1982 a'r rheolau mordwyo ehangach a gymhwysir drwy'r Sefydliad Morwrol Rhyngwladol yn ymwneud â gweithrediadau llongau.
Aeth yn ei flaen i ddweud y bydd pwysigrwydd cynyddol y dwysedd uchel o longau'n mordwyo Culfor Malacca hefyd yn dod dan ddylanwad heriau byd-eang fel ehangu Camlas Panama ers 2016. Ymhellach, mae angen gweld y gwrthdaro parhaus yn y llwybr morol ar hyd Môr De Tsieina yn nhermau dyfodol mordwyo'r cefnfor ar gyfer masnach yn ogystal â chynaladwyedd byd-eang.
Sbarduno'r dyfodol
Yn olaf, dadleuodd y bydd y syniadau ar y safbwyntiau sefydliadol gwleidyddol ac economaidd yn sbarduno'r dyfodol, gyda gwladwriaethau'n chwarae rhan bwysicach yn sefydlu deilliannau ar gyfer cynaladwyedd byd-eang.
Roedd ei sgwrs yn cynnig argymhellion allweddol i randdeiliaid, o lunwyr polisi ac asiantaethau llywodraethol i weithwyr morwrol a chludiant proffesiynol a chwaraewyr yn y sector preifat, fydd yn galluogi Malaysia i gydio a chynyddu ei mantais gystadleuol yn y parth morwrol byd-eang.
Daeth y cyflwyniad i ben gyda sesiwn holi ac ateb ddifyr, gyda Dr Nair yn myfyrio ar sut y byddai'r heriau byd-eang hyn yn effeithio ar Malaysia fel cenedl mewn lleoliad strategol ar brif lwybrau morol y byd.
Daeth ymagweddau'r dyfodol fel cenedl â chyd-destun geowleidyddol oddi mewn i brif lwybrau morol y byd a sut y byddai dimensiynau polisi'n esblygu, i'r amlwg fel sylwadau pwysig.
Roedd hyn yn cynnwys yr angen i fod yn ymwybodol o esblygiad byd-eang ymgysylltu gan wladwriaethau ar lefel ryngwladol, a sut y byddai hyn yn effeithio ar bolisïau ar gyfer y diwydiant morwrol ym Malaysia.