Datgelu Lloegr yr Oesoedd Canol o safbwynt pobl gyffredin
25 Medi 2019
Mae llyfr diweddaraf hanesydd yn archwilio dylanwad rhywedd ar gofio yn yr Oesoedd Canol.
Mae’r llyfr newydd gan yr hanesydd Oesoedd Canol, Dr Bronach Kane, yn canolbwyntio ar bobl nad oeddent yn rhan o’r elít yn yr Oesoedd Canol, gan daflu goleuni ar fywydau menywod, gweision a gweithwyr ‘cyffredin’, a’r rhai ar gyrion y gymdeithas, gan gynnwys taeogion a chaethion.
Yn Popular Memory and Gender in Medieval England: Men, Women and Testimony in the Church Courts c1200-1500, mae Dr Kane yn portreadu bywyd pob dydd yn Lloegr yr Oesoedd Canol y tu allan i’r elít trwy fanylion cofnodion llysoedd eglwysig. Mae tystiolaeth fyw yn achosion priodasau, difrïo a dyledion, yn ogystal â degymau, ewyllysiau a hawliau eglwysig, yn dangos sut roedd dynion a menywod yn meddwl am y gorffennol ac yn cyflwyno eu hanesion eu hunain.
Mae astudiaethau blaenorol o atgofion yn y cyfnod hwn wedi tueddu i archwilio technegau cofio ffurfiol yn yr ysgolion a’r mynachlogydd, ond mae’r llyfr hwn yn troi at gyd-destunau lleyg yn eu lle, gan ystyried am y tro cyntaf sut roedd rhywedd yn dylanwadu ar y ffyrdd roedd y rhan fwyaf o bobl yn cofio digwyddiadau’r gorffennol yn y canrifoedd cyn y Diwygiad Protestannaidd.
Gan dynnu ar dystiolaethau cyfreithiol, wedi’u hategu gan pastoralia (testunau sy’n ymwneud â gofal bugeiliol), deunydd darllen a geiriau caneuon, mae’r awdur yn dadlau bod dynion a menywod â statws is, er gwaethaf y llu o gyfyngiadau ar eu gweithredoedd, yn gallu defnyddio’r gyfraith i gyfathrebu hanesion cymhleth ac amrywiol.
Mae’n ymdrin â’r datblygiadau cyfreithiol a chrefyddol a gynhyrchai’r atgofion hyn, gan olrhain sut roedd rhywedd yn dylanwadu ar bortreadau o garwriaeth, rhywioldeb a geni plant, priodas a gweddwdod, yn ogystal ag arferion a’r dirwedd.
O safbwynt rhywedd a goddrychedd, mae’r llyfr yn herio naratifau confensiynol sydd wedi cysylltu atgofion menywod â bywyd cartref wrth wreiddio atgofion dynion mewn bywyd cyhoeddus.
Mae Dr Kane, Uwch-ddarlithydd mewn Hanes Canoloesol, yn esbonio: “Roedd gweision, gweithwyr, menywod sengl ac, ar adegau, daeogion a’r tlodion yn gallu rhoi tystiolaeth mewn llysoedd eglwysig, gan gynnig syniad ehangach o sut roedd pobl yn deall eu hunain a’u hanesion mewn cyd-destunau poblogaidd, lleol.
“Roedd rhywedd yn hanfodol i ffurfio’r elfennau goddrychol hyn, gyda menywod â statws is yn arbennig o agored i feirniadaeth a oedd wedi wreiddio mewn delweddau rhywiol. Mae hefyd yn arwyddocaol bod gwahaniaethau cymdeithasol economaidd o ran statws a chyfoeth yn llunio tystiolaeth dynion a menywod nad oeddent yn rhan o’r elít. Wrth roi tystiolaeth o flaen llysoedd eglwysig, roedd dynion a menywod â statws is yn cyflwyno agweddau ar eu hunaniaethau a oedd yn cael eu mynegi a’u ffurfio trwy brofiadau pob dydd o ymwneud â’r gyfraith. Roedd y profiadau hyn yn cael eu defnyddio i wrthod, meddiannu neu addasu’r modeli ideolegol a oedd flaenaf mewn trafodaethau clerigol a phatriarchaidd.”
Mae Dr Bronach Kane, sy’n addysgu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, yn ymddiddori’n benodol yn hanes Prydain ac Ewrop ddiwedd yr Oesoedd Canol, hanes cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol Loegr ddiwedd yr Oesoedd Canol, a rhywedd a hanes menywod. Mae ei phrosiectau ymchwil presennol yn cynnwys cynlluniau ar gyfer astudiaeth helaeth o fenywod, arferion a pherthnasoedd cymdeithasol yng nghefn gwlad Lloegr cyn ac ar ôl y Pla Du, ac mae ganddi ddiddordeb yn theori hanes, mewn hanes diwylliannol ac yn hanes emosiynau.