Caerdydd ymhlith yr ymchwil flaenllaw o Gymru a arddangosir
25 Tachwedd 2015
Digwyddiad i ddathlu’r gwyddorau cymdeithasol mewn cymdeithas
Mae gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru yn cael ei ddathlu yr wythnos hon mewn lansiad o gyhoeddiad newydd - 'Dadlau o Blaid y Gwyddorau Cymdeithasol Rhif 10: Cymru' - a gyhoeddwyd gan Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol a'i Hymgyrch dros Wyddor Gymdeithasol.
Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys 14 o astudiaethau achos o ymchwil a wnaed gan sefydliadau yng Nghymru sydd wedi dylanwadu ar lywodraethau gwladol a rhyngwladol, yn ogystal â thynnu sylw at fanteision gwaith ymchwil i'r gwyddorau cymdeithasol ar gyfer polisi cyhoeddus.
Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys astudiaethau gan brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe, a Phrifysgol De Cymru, ac yn cwmpasu meysydd ymchwil sy'n cynnwys newid agweddau o blaid datganoli yng Nghymru, cyflogau'r sector cyhoeddus, triniaeth dementia drwy Theori Ysgogi Gwybyddol, a lleihau nifer y bobl yn eu harddegau sy'n ysmygu drwy gefnogaeth cyfoedion.
Mae effaith gwaith ymchwil o Gymru wedi bod yn bellgyrhaeddol. Mae rhaglen Food Dudes, a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei chyflwyno'n llwyddiannus mewn nifer o lefydd ym Mhrydain, ac wedi cynyddu faint o lysiau a ffrwythau mae plant yn hapus i'w bwyta a disodli bwydydd eraill, sy'n llai iach, o ddeiet y plant a'u rhieni.
Mae hefyd wedi cael effaith fyd-eang sylweddol. Bu'r Athro Fiona Brookman o Brifysgol De Cymru, a fydd yn siarad yn y lansiad, yn edrych ar ddiwylliant ac arferion ymchwilio i achosion o ddynladdiad gyda swyddogion o Brydain a'r Unol Daleithiau. Dyfeisiodd ffordd newydd o farnu pa mor llwyddiannus oedd ymchwiliadau, gan arwain at newidiadau yn y ffordd mae adrannau dynladdiad yn yr Unol Daleithiau ac yn fyd-eang yn cynnal ymchwiliadau i lofruddiaethau ac yn ymgysylltu â theuluoedd a chymunedau lleol.
Mae'r pynciau ymchwil eraill yn cynnwys: mynd i'r afael â masnachu mewn pobl; dulliau newydd o ymladd yn y 'rhyfel yn erbyn cyffuriau'; ac amddiffyn hawliau dynol pobl ifanc yng Nghymru.
Yng Nghymru, sy'n gartref i ddim ond naw o 109 o Sefydliadau Addysg Uwch gwledydd Prydain, mae'r prifysgolion wedi arloesi mewn cynnal gwaith ymchwil blaenllaw yn y gwyddorau cymdeithasol ar raddfa fyd-eang ar ystod eang o bynciau, o iechyd y cyhoedd, i farchnadoedd ariannol rhyngwladol ac ansawdd bywyd yn y gweithle.
Bydd y llyfryn yn cael ei lansio ddydd Mercher 25 Tachwedd gan Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Pierhead, Bae Caerdydd, i gynulleidfa o wneuthurwyr polisi, gweision sifil, Aelodau Cynulliad a gwyddonwyr cymdeithasol.
Y llyfryn hwn yw'r degfed yn y gyfres Dadlau o Blaid y Gwyddorau Cymdeithasol, sy'n llyfryn ar y cyd rhwng Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol a'i Hymgyrch dros Wyddor Gymdeithasol, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), a Sefydliad Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol (RIASS). Mae'r llyfrynnau hyn yn cael eu cyhoeddi gan Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol a'i Hymgyrch dros Wyddor Gymdeithasol i ddangos grym ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol i wella bywydau.
Bydd siaradwyr a phanelwyr eraill yn y lansiad yn cynnwys: Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb; Ceridwen Roberts OBE FLSW FAcSS; Yr Athro Fiona Brookman, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan DroseddegPrifysgol De Cymru; a'r Athro David Blackaby o Adran Economeg Llafur, Prifysgol Abertawe.