Ewch i’r prif gynnwys

Welsh School of Architecture Lecturer Dr Eshrar Latif publishes book to help architects select thermal insulation materials.

27 Medi 2019

Thermal Insulation
Dr Latif's publication on thermal insulation materials

Mae'r llyfr, o'r enw 'Thermal Insulation Materials for Building Applications', yn canolbwyntio ar berfformiadau thermol, amgylcheddol, tân a lleithder y deunyddiau inswleiddio thermol mwyaf sydd ar gael yn y DU, Ewrop ac yn fyd-eang.

Dywedodd Dr Latif:

"Mae'r diwydiant adeiladu yn dueddol o gydymffurfio â pharamedrau colli gwres waliau drwy ddefnyddio unrhyw fath o inswleiddio sy'n bodloni'r hyn sy'n ofynnol, yn enwedig y rhai rhatach.  Wrth wneud hynny, maen nhw'n anwybyddu effeithiau amgylcheddol y deunyddiau inswleiddio ac yn rhoi iechyd a lles cleientiaid mewn perygl. Mae tân tŵr Grenfell yn enghraifft ddiweddar o ganlyniadau dewis deunyddiau inswleiddio sy'n gallu allyrru cemegau peryglus wrth losgi. Drwy ddarllen y llyfr hwn, bydd adeiladwyr proffesiynol yn gallu gwahaniaethu rhwng deunyddiau inswleiddio cynaliadwy ac anghynaladwy, peryglus a diogel, a gwneud eu penderfyniadau eu hunain wrth ddewis deunyddiau inswleiddio."

Mae Dr Latif yn Arweinydd Cwrs ar yr MSc mewn Mega-Adeiladau Cynaliadwy, gyda'r modiwl: 'Hinsawdd, Cysur ac Ynni' yn cysylltu'n uniongyrchol â'i ymchwil. Ceir ffocws penodol yn y modiwl hwn ar wyddoniaeth lleihau'r galw am ynni er mwyn cynnal cysur thermol mewn adeiladau drwy ddefnyddio atebion goddefol.

Dywedodd Dr Latif:

"Tra'n ysgrifennu'r llyfr hwn, cawsom ein synnu bod peth o'r wybodaeth ynghylch iechyd a diogelwch deunyddiau inswleiddio thermol naill ai wedi'u camliwio neu eu cuddio gan y diwydiant inswleiddio. Mae'r llyfr yn rhoi cyfle i benseiri a gweithwyr adeiladu proffesiynol wneud penderfyniad gwybodus ynghylch dewis deunyddiau inswleiddio thermol ar gyfer unrhyw brosiect adeiladu."

Mae'r MSc mewn Mega-Adeiladau Cynaliadwy yn canolbwyntio ar egwyddorion cynllunio a dylunio mega-adeiladau mewn modd cynaliadwy, a'i nod yw hyfforddi myfyrwyr i ymateb i'r heriau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r adeiladau hyn.

Rhannu’r stori hon