Myfyrwyr MSc yn cyflwyno eu gwaith yng Nghynhadledd Meistr NCEUB
27 Medi 2019
![EDB Students](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0017/1701341/IMG_3312-Cropped.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae myfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Cymru o'r radd MSc mewn Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol wedi cyflwyno eu gwaith yng nghynhadledd Meistr NCEUB (Network for Comfort and Energy Use in Buildings).
Cynhaliwyd y gynhadledd o dan y teitl "Pobl ac Adeiladau" ar 20 Medi ym Mhrifysgol Fetropolitan Llundain.
Cyflwynodd Selin Demirci, Ketki Mehta a Konstantinos Koletsos ganlyniadau o'u prosiectau ymchwil MSc mewn Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol:
- Konstantinos Koletsos - Cymharu defnydd o ynni ac effaith amgylcheddol waliau tywyll allanol eraill wrth adeiladu gwestai yng Ngroeg
- Selin Demirci - Effeithlonrwydd posibl BIM mewn POE er mwyn gwella bodlonrwydd preswylwyr yn yr adeiladau
- Ketki Mehta - Cynaeafu ynni posibl o ffasadau ym mloc swyddfa Dinas Derby
Cyflwynodd Adell Awaj, Noah Akhimien a Mohammed Alghafis (sy'n fyfyrwyr PhD ar hyn o bryd yn WSA) ganfyddiadau o'u hastudiaethau Meistr blaenorol:
- Adell Awaj - cais BIM i gefnogi proses dylunio lleoedd cyhoeddus yn Misurata, Libya
- Noah Akhimien - Addasrwydd mewn adeiladau swyddfa ynni effeithlon
- Mohammed Alghafis - Trefolaeth fertigol gynaliadwy yn Nheyrnas Saudi Arabia - dyfodol adeiladau tal ar gyfer dylunio trefol Saudi Arabia
Dr Vicki Stevenson, arweinydd cwrs MSc mewn Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol, oedd â'r fraint o gadeirio trydydd sesiwn y gynhadledd. Dywedodd:
"Dylai trefnwyr y gynhadledd, yr Athro Fergus Nicol a Dr Luisa Brotas, gael eu canmol am drefnu'r gynhadledd, mae'n gyfle prin i fyfyrwyr MSc arddangos eu hymchwil. Roedd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth eang o ymchwil berthnasol i'r amgylchedd adeiledig, a dangosodd y cyflwynwyr frwdfrydedd gwych am eu gwaith!"
Mae'r rhaglen MSc mewn Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r gallu sydd eu hangen i ddylunio amgylcheddau iach a chyfforddus mewn ac o amgylch adeiladau sy'n rhoi ychydig iawn o straen ar adnoddau byd-eang.