Angen cymryd camau gweithredu i leihau nifer y bobl sydd mewn carchardai yng Nghymru
25 Medi 2019
Yn ôl adroddiad, dylai Cymru ddilyn arweiniad cenhedloedd eraill a datblygu ffyrdd credadwy eraill i garcharu.
Ar ôl darganfod yn ddiweddar mai Cymru sydd â'r gyfradd garcharu gyfartalog uchaf yng ngorllewin Ewrop, mae academyddion o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn dweud bod eu dadansoddiad o chwe system farnwrol arall yn dangos i lunwyr polisi yng Nghymru sut y gallent o bosibl wyrdroi’r duedd hon.
Fis diwethaf, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod 10,000 o leoedd ychwanegol wedi’u creu mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd Dr Robert Jones: “Cymru sydd â’r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop ar hyn o bryd, ac ymddengys nad oes fawr o obaith i hyn newid o dan y system gyfredol. Tanlinellwyd hyn fwyaf diweddar gan benderfyniad Llywodraeth y DU i ehangu’r ystad carcharorion gyda 10,000 o leoedd ychwanegol.
“Mae ein gwaith ymchwil i sut mae gwledydd eraill wedi mynd i’r afael â’u cyfraddau carcharu uchel yn dangos bod ffyrdd dichonadwy eraill i garcharu cadwraethol. Mae’r adroddiad yn dangos y gallai tystiolaeth gan ymchwil genedlaethol fod yn allweddol i ddull gwahanol radical yn y dyfodol o drin cyfiawnder troseddol yng Nghymru.
Dadansoddodd ymchwilwyr gyfraddau carcharu ac ymagweddau at bolisi cosbi yng Nghaliffornia, Efrog Newydd, Texas, y Ffindir, Portiwgal a'r Iseldiroedd. Roedd pump o'r chwe system a astudiwyd wedi llwyddo i ostwng eu cyfraddau carcharu.
Esboniodd Dr Jones: “Gellid ystyried nad yw enghreifftiau o ‘gymdeithasau carcharu uchel’ yn yr Unol Daleithiau yn berthnasol iawn i Gymru, ond mae’r awdurdodaethau hyn wedi lleihau nifer y bobl yn y ddalfa yn llwyddiannus ac yn dangos bod mentrau polisi penodol y mae Cymru, fel cymdeithas carcharu uchel, yn gallu dysgu ohonynt.
“Ymysg ein henghreifftiau Ewropeaidd, mae llunwyr polisïau yn y Ffindir wedi symud yn llwyddiannus o gael un o’r cyfraddau carcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop i un o’r lleiaf. Mae'r Iseldiroedd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y carcharorion yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r enghreifftiau hyn yn rhoi gwersi pwysig i ni ar gyfer sut y gallwn wella’r sefyllfa yng Nghymru.”
Mae'r adroddiad yn ychwanegu y gellir priodoli'r cynnydd yn y boblogaeth mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr i raddau helaeth i newidiadau deddfwriaethol a pholisi a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys cyflwyno dedfrydau lleiaf posibl, cynnydd mewn dedfrydau mwyaf posibl a chreu troseddau newydd.
Yn ôl ymchwil flaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, cynyddodd y digwyddiadau hunan-niweidio mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr 435% rhwng 2010 a 2018. Yn ystod yr un cyfnod, cynyddodd ymosodiadau carcharorion-ar-garcharor 136% a chynyddodd ymosodiadau ar staff o 72 yn 2010 i 342 yn 2018.
Yn ei argymhellion, mae’r adroddiad yn nodi bod angen “dull system gyfan” i ostwng cyfraddau carcharu.
Dywedodd Dr Jones: “Mae cyfle enfawr i lunwyr polisïau feddwl yn gyfannol am rôl y system gyfiawnder yng Nghymru. Gyda’i gilydd, mae’r astudiaethau achos hyn yn cynnig enghreifftiau pwerus o’r hyn y gallai Cymru fod pe bai ewyllys wleidyddol a strwythurau cyfansoddiadol ein cenedl yn alinio’n wahanol.”