Cyllid yr UE i gefnogi gwaith economi carbon isel yng Nghymru
24 Medi 2019
Bydd bron i £3 miliwn o gyllid yr UE yn cael ei fuddsoddi mewn prosiect newydd sydd wedi'i arwain gan Brifysgol Caerdydd, a fydd yn cefnogi ymchwilwyr gwyddonol, y sector cyhoeddus, BBaChau ac arbenigwyr diwydiannol i ddatblygu technoleg y gellir ei ehangu'n llawn ar gyfer systemau ynni carbon isel.
Bydd prosiect FLEXISapp yn canolbwyntio ar ymchwil cydweithredol i gydrannau sy'n addas i'w defnyddio mewn systemau ynni cynaliadwy ar lefel fasnachol, gan weithio gyda chwmnïau sydd yng Nghymru neu'n symud i Gymru.
Mae'r prosiect hwn yn ychwanegu at lwyddiant y rhaglen ymchwil FLEXIS pum mlynedd sy'n parhau ac yn cael ei gefnogi gan £15 miliwn o gyllid yr EU. Mae'r FLEXISapp yn anelu at fanteisio ar gyflenwad y gwaith ymchwil presennol i ddatblygu system ynni ddiogel, fforddiadwy a chydnerth ledled Cymru sydd â'r potensial i’w defnyddio'n fyd-eang.
Bydd y safle ffisegol yn ardal Castell-nedd Port Talbot, sy'n cael ei adnabod fel yr ardal arddangos FLEXIS yn gweithredu fel hyb arddangos i brofi ac arddangos cynnyrch newydd fel rhannau cydran o systemau ynni gweithredol.
Mae gwaith mesur a monitro priodol yn helpu i brofi effeithlonrwydd cynnyrch newydd, gan eu sefydlu fel datrysiadau masnachol hyfyw, ac annog buddsoddwyr lleol a rhyngwladol sy'n gweithio yn y diwydiant ynni cynaliadwy i'w defnyddio.
Bydd y prosiect hwn yn helpu i ddatblygu systemau a thechnolegau ynni carbon isel newydd, diogel a fforddiadwy sydd wedi'u profi ar lefel fasnachol, y gellir eu gweithredu'n lleol yng Nghymru yn ogystal ag yn fyd-eang. Bydd twf yr economi carbon isel yn helpu i fynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol, gan liniaru tlodi drwy gynnig datrysiadau cyflenwi sy'n fwy effeithlon ac yn fwy cost effeithiol.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am oruchwylio cyllid yr UE yng Nghymru: "Mae Cymru bellach wedi'i sefydlu’n gadarn fel canolfan wyddonol flaenllaw ar gyfer gwaith ymchwil i systemau ynni hyblyg. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddatblygu datrysiadau creadigol i heriau effeithlonrwydd ynni byd-eang, ac yn helpu i arwain y cyfnod pontio tuag at economi carbon isel, gwyrddach.
"Bydd y prosiect hwn yn helpu i ddatblygu cynnyrch a thechnolegau newydd ar gyfer eu cyflwyno i'r farchnad, gan sicrhau bod systemau ynni cynaliadwy ar gael yn fasnachol ar lefel hollol weithredol. Bydd yn hyrwyddo cynnyrch gwyrddach ac yn gwella ansawdd aer, yn ogystal â llywio twf economaidd a chreu swyddi newydd yng Nghymru yn y pen draw, gan greu Cymru sy’n fwy cyfartal, yn fwy llewyrchus ac yn fwy gwyrdd.
"Drwy hyrwyddo cydweithredu ac annog dulliau gweithredu cydgysylltiedig i broblemau newid hinsawdd, mae cyllid yr UE yn parhau i lywio cynnydd o ran gwaith ymchwil a datblygu, gwyddoniaeth, seilwaith a sgiliau yng Nghymru, ac mae'n chwarae rhan hanfodol wrth foderneiddio ein heconomi, gan gynyddu cynhyrchiant a datblygu cyfleoedd cyflogaeth a busnes.
Ychwanegodd yr Athro Hywel Thomas, prif ymchwiliwr arweiniol FLEXIS: “Rydym wrth ein bodd i dderbyn cymorth pellach gan yr UE i Ddatblygu’r Ardal Arddangos ym Mhort Talbot, a fydd yn modelu llif ynni a CO2, prosesu creu a dosbarthu ynni amgen yn ogystal â gwella effeithlonrwydd y busnes presennol a’r potensial ar gyfer busnesau newydd yn yr ardal.
Mae’r dyfarniad yn dyst i ymroddiad y partneriaid sydd wrth graidd y prosiect hwn: Cyngor Castell-nedd Port Talbot, cwmni dur Tata a Grŵp Ymchwil FLEXIS.”