Myfyriwr ôl-raddedig yn ennill ysgoloriaeth
24 Medi 2019
Mae Ysgoloriaeth Clement Chan wedi’i dyfarnu i fyfyriwr orthodonteg yn yr Ysgol Deintyddiaeth am gael y canlyniadau arholiad uchaf ar ddiwedd ei blwyddyn gyntaf.
Mae cefnogaeth hael gan Dr Clement Chan, cynfyfyriwr yr Ysgol Deintyddiaeth, wedi galluogi i Ysgoloriaeth gael ei chreu ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ar y radd MScD mewn Orthodonteg.
Ffrwyth haelioni Dr Clement Chan, cynfyfyriwr ôl-raddedig, yw’r wobr, a oedd yn gwerthfawrogi cefnogaeth adran orthodonteg yr Ysgol Deintyddiaeth tra’n astudio ei raglen meistr. Mae’r MScD mewn Orthodonteg wedi’i sefydlu ers dros 40 mlynedd a’i diben yw rhoi hyfforddiant clinigol ac academaidd i arbenigwyr orthodonteg y dyfodol.
Fel ffordd o werthfawrogi’r help a gafodd, mae Dr Chan wedi cynnig ysgoloriaeth ariannol i’r myfyriwr blwyddyn gyntaf sy’n ennill y radd uchaf. Mae’r Ysgoloriaeth wedi bodoli ers sawl blwyddyn bellach ac felly mae llawer o fyfyrwyr wedi elwa’n fawr o gefnogaeth ariannol Dr Chan, a’i gefnogaeth barhaus i’r ddarpariaeth hyfforddi orthodonteg yn yr Ysgol.
Camilla Miles-Hobbs, myfyriwr MScD Orthodonteg yn ei hail flwyddyn, a gafodd y marciau uchaf yn ei harholiadau haf ac, o ganlyniad, hi sydd wedi derbyn yr ysgoloriaeth nodedig hon.
Dywedodd Camilla ‘Roedd clywed bod Ysgoloriaeth Clement Chan wedi’i dyfarnu i mi yn newyddion gwych. Roedd yr holl waith caled yn werth chweil a bydd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer fy mlwyddyn academaidd nesaf!’
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein cyrsiau ôl-raddedig a’n cyfleoedd ymchwil ar ein gwefan.