Manos Stellakis, ymgynghorydd arbenigol o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn cael ei benodi'n Arholwr Allanol ym Mhrifysgol Queen's Belfast.
25 Medi 2019
Llongyfarchiadau i Manos Stellakis, sydd wedi cael ei benodi’n Arholwr Allanol i’r rhaglen ôl-raddedig Ymarfer Proffesiynol mewn Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Queen’s Belfast am gyfnod o bedair blynedd o fis Hydref 2019 ymlaen.
Mae Manos yn aelod allweddol o dîm cwrs y Meistr mewn Gweinyddu Dylunio a’r Diploma mewn Ymarfer Proffesiynol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn gweithredu fel ymgynghorydd arbenigol ar gyfer y cyrsiau hyn, sy’n cynnwys cynghori ar faterion strategol, cynnal seminarau a gweithdai, a rhoi adborth i fyfyrwyr. Yn benodol, mae’n rheoli’r gweithdy astudiaeth ddichonolrwydd boblogaidd ar gyfer y modiwl Cyd-destun
Mae'n gyd-awdur, gyda'r Athro Sarah Lupton, chweched rhifyn Which Contract, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac mae hefyd wedi cyd-ysgrifennu llyfrau ar fanylebau perfformiad a deddfwriaeth. Ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i lyfr newydd ar gontractau gwasanaethau proffesiynol, ac mae wedi bod yn bartner yn Lupton Stellakis ers 1984.
Wrth sôn am ei rôl newydd, dywedodd Manos:
'Rydw i'n edrychymlaen at fy apwyntiad yn QUB, ac at weithio gyda chyfarwyddwr y cwrs, Tarla MacGabhann. Rydw i wedi bod yn rhan o waith addysgu ac arholi mewn amrywiaeth eang o ysgolion Pensaernïaeth, gan gynnwys yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yr AA, y Bartlett, a San Steffan. Bydd yn ddiddorol iawn gweld sut mae'r cwrs Ymarfer Proffesiynol yn cael ei drefnu yn Queen's a defnyddio fy mhrofiad ar gyfer rôl Arholwr Allanol.'
Yr Athro Sarah Lupton yw cyfarwyddwr y Diploma mewn Ymarfer Proffesiynol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ynghyd â'r cwrs newydd Meistr mewn Gweinyddu Dylunio.
Mae Sarah yn fwy na pharod i ateb ymholiadau am y ddwy raglen, ebostiwch lupton@caerdydd.ac.uk.