Ewch i’r prif gynnwys

Metro De Cymru

10 Gorffennaf 2019

South Wales Metro Logo

Mae adolygiad o gynnydd prosiect Metro De Cymru hyd yn hyn a chyfleodd sy’n bodloni y tu hwnt i’r cynlluniau a ariannwyd wedi denu cynulleidfa o lunwyr polisïau, academyddion ac ymarferwyr busnes i Sesiwn Hysbysu dros Frecwast ddiweddaraf yr Ysgol Busnes ddydd Mercher 10 Gorffennaf 2019.

Dechreuodd Andrew Potter, Athro mewn Logisteg a Thrafnidiaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd y cyfan yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y digwyddiad.

Tynnodd yr Athro Potter sylw at botensial trawsnewidiol prosiect Metro De Cymru i ddefnyddwyr presennol trafnidiaeth gyhoeddus, ond a allai elwa ar welliannau i’r gwasanaeth. At hynny, amlygwyd cwmpas y cynllun i ddatblygu rhwydwaith sy’n galluogi defnyddwyr newydd i gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus yn eu bywydau bob dydd.

Ar ôl cyflwyniad yr Athro Potter, aeth Colin Lea, Cyfarwyddwr Masnachol a Phrofiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru ati i gyflwyno fel y cyntaf o westeion gwadd y bore.

Cymru a ffiniau

Amlinellodd Mr Lea weledigaeth Trafnidiaeth Cymru i greu rhwydwaith trafnidiaeth y mae Cymru’n falch ohoni,i roi diweddariad ar gyflwyniadau hyd yn hyn ac i edrych ymlaen at yr hyn sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y chwech i naw mis nesaf.

Wrth edrych ar y genedl gyfan, rhannodd Mr Lea gynlluniau i drawsnewid y rhwydwaith drwy fuddsoddi mewn trenau newydd – caiff llawer ohonynt eu rhoi at ei gilydd yng Nghymru – creu swyddi a phrentisiaethau, a diweddaru gorsafoedd trenau gan gynnwys cyfleusterau, arlwyo, siopau, dulliau tocynnau clyfar, WiFi, parcio a hygyrchedd.

Amlinellodd hefyd y newidiadau a gyflawnwyd hyd yn hyn – roedd y rhestr yn amrywio o wasanaethau newydd, datblygiadau technoleg, gofynion dwy iaith, gwasanaethau glanhau a chreu swyddi ymysg eraill.

Dywedodd Mr Lea wrth symud i ganolbwyntio ar y prosiect Metro De Cymru: “Nid mater o drenau yn unig yw Metro. Mae’n ymwneud â chysylltu pob math o drafnidiaeth at ei gilydd. Gall hynny fod yn cerdded a beicio – teithio llesol fel rydym yn ei alw. Gallai fod yn teithio ar fysiau a'r cyfnewidfeydd rhwng dulliau cludo fel bws a thrên, er enghraifft y rhai sydd wedi'u cynllunio yng Nghaerdydd a Chaerffili...”

Ar ôl amlinellu gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru o safbwynt cymdeithasol, symudodd Mr Lea ymlaen i’r newidiadau ffisegol ar gyfer y rhwydwaith ei hun. Wedi'i drefnu ar gyfer mis Rhagfyr 2023, bydd y rhwydwaith yn golygu llawer mwy o drenau yr awr ar gyfer gwasanaethau ledled y rhanbarth, fflyd cerbydau tri-modd a metro arloesol, sy'n gallu gweithredu tramffordd ar y stryd ac ar linell gweld.

Ceir a thagfeydd traffig

Dilynodd Mark Berry, Athro mewn Ymarfer Cysylltedd o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd Colin Lea a mynd ati i roi’r cyd-destunau ehangach i brosiect Metro.

Trwy fyfyrio am ei rôl ers 2010 yn helpu i wireddu’r metro, gan gynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru i arwain y gwaith o’i ddatblygu ar gyfer rhan o’r cyfnod hwnnw, dywedodd yr Athro Barry: “Dylai’r Metro fod yn gatalydd ar gyfer ystyried sut rydym am fyw yn y rhan hon o’r byd...”

Yn ystod ei gyflwyniad, amlinellodd effaith gorddibyniaeth y gymdeithas ar geir fel y prif fodd o deithio, a sut rydym wedi methu cynnig dulliau amgen i hyn.

Myfyriodd ar y cyd-destun rhanbarthol ac economaidd, sydd wedi symud o fod yn bwerdy diwydiannol sydd o fudd i'r rhanbarth cyfan i ddirywiad diwydiannol, ymddieithrio a newidiadau mewn llywodraeth leol.

I'r Athro Barry, mae cysylltedd trafnidiaeth gwael yn ffactor sy'n gwaethygu yn y sifftiau economaidd, cymdeithasol ac o ran agwedd hyn.

Defnyddiodd y rhan hon o’i gyflwyniad i rannu cyfleoedd Datblygiad sy'n Canolbwyntio ar Dramwy fel y gwelwyd mewn dinasoedd megis Vancouver, Barcelona a Denver. Mae datblygiadau megis y rhain yn galluogi llywodraethau i edrych ar effaith systemau tramwy a sut y gallai annog mathau eraill o dwf, ehangu a buddsoddi mewn rhanbarthau dinesig.

Roedd rhan olaf cyflwyniad yr Athro Barry yn y sesiwn hysbysu dros frecwast yn canolbwyntio ar gysylltedd.

Mae llinellau Crossrail Caerdydd a Circle, Bus Rapid Transit yn syniadau yr amlinellodd yr Athro Barry, sydd â’r nod o roi cysylltedd gwell yn rhanbarth dinas Caerdydd.

Gydag enghreifftiau eglurhaol, daeth i ben trwy ddangos sut y gellid cyflawni'r prosiectau fesul cam ac annog cyfleoedd teithio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrchfannau sydd wedi'u hynysu ar hyn o bryd.

Daeth y sesiwn hysbysu dros frecwast i ben gyda sesiwn holi ac ateb fywiog dan gadeiryddiaeth yr Athro Potter.

Rhwydwaith yw'r gyfres Sesiynau Hysbysu Brecwast Addysg Weithredol sy'n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol.

Os nad oeddech yn gallu dod, edrychwch ar ein ffrwd fyw o’r digwyddiad.

Mae’r sesiwn nesaf, I ba raddau y gall cwmnïau o Gymru ennill mantais o Superfast? ddydd Mawrth 24 Medi 2019 a bydd yr Athro Max Munday, Giles Phelps a David Elsmere yn archwilio materion a chyfleoedd yn seilwaith digidol busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.