Datgelu coedwigoedd ffosil trofannol yn Norwy'r Arctig
19 Tachwedd 2015
Gallai darganfyddiad newydd daflu goleuni ar achos gostyngiad enfawr mewn lefelau CO2 atmosfferig gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl
Mae ymchwilwyr o'r DU wedi datgelu coedwigoedd ffosil hynafol, y credir eu bod yn rhannol gyfrifol am un o'r newidiadau mwyaf dramatig yn hinsawdd y Ddaear yn y 400 miliwn blwyddyn ddiwethaf.
Daethpwyd o hyd i'r coedwigoedd ffosil, gyda boncyffion y coed wedi aros yn eu lle, yn Svalbard, ynysfor Norwyaidd yng Nghefnfor yr Arctig. Cawsant eu hadnabod a'u disgrifio gan Dr Chris Berry o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r Athro John Marshall, o Brifysgol Southampton, wedi dadansoddi'n gywir bod y coedwigoedd yn 380 miliwn o flynyddoedd oed.
Roedd y coedwigoedd yn tyfu ger y cyhydedd yn ystod y cyfnod Defonaidd hwyr, a gallant daflu goleuni ar achos y gostyngiad arwyddocaol (x 15) mewn lefelau carbon deuocsid (CO2) yn yr atmosffer yn y cyfnod hwnnw.
Mae damcaniaethau presennol yn awgrymu y bu gostyngiad enfawr mewn lefelau CO2 yn yr atmosffer yn ystod y cyfnod Defonaidd (420-360 miliwn o flynyddoedd yn ôl), a chredir mai'r achos pennaf am hyn oedd y newid yn y llystyfiant, o blanhigion bach iawn i'r coedwigoedd mawr cyntaf.
Roedd coedwigoedd yn tynnu CO2 o'r aer drwy ffotosynthesis – y broses a ddefnyddia planhigion i greu bwyd a meinweoedd – a thrwy ffurfio priddoedd.
Er bod ymddangosiad y coed mawr yn amsugno mwy o ymbelydredd yr haul i ddechrau, fe wnaeth y tymheredd ar y Ddaear ostwng yn ddramatig hefyd maes o law, i lefelau tebyg iawn i'r tymheredd a welir heddiw, o ganlyniad i'r gostyngiad mewn CO2 atmosfferig.
Oherwydd y tymheredd uchel a'r lefelau uchel iawn o law ar y cyhydedd, mae'n debygol mai'r coedwigoedd cyhydeddol hyn wnaeth y cyfraniad mwyaf at y gostyngiad mewn CO2. Roedd Svalbard ar y cyhydedd yn y cyfnod hwn, cyn i'r plât tectonig symud oddeutu 88° tua'r gogledd, i'w safle presennol yng Nghefnfor yr Arctig.
"Mae'r coedwigoedd ffosil hyn yn dangos i ni'r llystyfiant a'r dirwedd ar y cyhydedd 380 miliwn o flynyddoedd yn ôl, wrth i'r coed cyntaf ddechrau ymddangos ar y Ddaear," meddai Dr Berry.
Canfu'r tîm y ffurfiwyd y coedwigoedd yn Svalbard yn bennaf o goed lycopod, sy'n fwy adnabyddus am dyfu filiynau o flynyddoedd yn ddiweddarach mewn corsydd glo, a wnaeth droi yn ddyddodion glo – fel y rheini yn ne Cymru. Canfuwyd hefyd bod y coedwigoedd yn hynod o drwchus, gyda bylchau bach iawn – tua 20cm – rhwng pob coeden, a oedd yn ôl pob tebyg yn tyfu i uchder o tua 4m.
"Yn ystod y cyfnod Defonaidd, credir yn eang y bu gostyngiad anferth yn lefel y carbon deuocsid yn yr atmosffer, o 15 gwaith y lefel bresennol i rywbeth yn debyg i'r lefelau a geir heddiw.
"Achos mwyaf tebygol y gostyngiad dramatig hwn mewn carbon deuocsid yw esblygiad llystyfiant o faint coed, oherwydd roedd y planhigion yn amsugno carbon deuocsid drwy ffotosynthesis i adeiladu eu meinweoedd, a hefyd drwy'r broses o ffurfio priddoedd."
Mae'r canfyddiadau newydd wedi'u cyhoeddi yng nghyfnodolyn Geology.