Ffordd lai gwenwynig i guro canser
18 Tachwedd 2015
Gallai cyfuniad o gemegau diwenwyn o fwyd a llysiau fod yn allweddol er mwyn trechu canser na ellir ei drin ac ailwaeledd
Yn ôl canfyddiadau mewn astudiaeth fyd-eang a arweiniwyd ar y cyd gan
Brifysgol Caerdydd, gallai cyfuniad o gemegau diwenwyn o fwyd a llysiau fod yn
allweddol i fynd i'r afael â chanser na ellir ei drin ac ailwaeledd.
Er gwaethaf sawl datblygiad, mae llawer o therapïau canser yn hynod wenwynig.
Hyd yn oed pan maent yn gweithio yn ôl pob golwg, bydd canran sylweddol o
gleifion yn mynd yn wael eto ar ôl ychydig fisoedd yn unig.
Isboblogaethau o gelloedd wedi mwtadu ac sy'n gallu gwrthsefyll therapi sy'n
gyfrifol am ailwaeledd o'r fath fel arfer. Mae meddygon sy'n ceisio defnyddio
cyfuniadau o therapïau i fynd i'r afael â'r broblem yn canfod bod gwenwyn
therapiwtig fel arfer yn cyfyngu ar eu gallu i atal y rhan fwyaf o
ganserau.
I fynd i'r afael â'r broblem, aeth corff anllywodraethol
o Ganada o'r enw 'Getting to Know Cancer' ati i greu tasglu oedd yn cynnwys 180
o wyddonwyr o sefydliadau blaenllaw mewn 22 o wledydd, gan gynnwys
Cymru. Enwebodd timau rhyngddisgyblaethol gyfres o dargedau
moleciwlaidd i'w blaenoriaethu (74 i gyd) y gallai cemegau eu cyrraedd i wella
canlyniadau i gleifion yn y rhan fwyaf o ganserau.
Aethpwyd ati wedyn i argymell cemegau gwenwyn isel cyfatebol a allai gael eu
defnyddio ar gyfer cymysgeddau o gemegau a fyddai'n gallu cyrraedd sbectrwm
eang o dargedau a flaenoriaethir yn y rhan fwyaf o ganserau. Disgrifir eu
gwaith mewn rhifyn arbennig o ‘Seminars in Cancer Biology’, Elsevier, a gyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd Keith I. Block, MD, prif awdur y papur a Chyfarwyddwr Meddygol
a Gwyddonol y Block Center for Integrative Cancer Treatment yn Skokie,
Illinois: "Mae'r consensws eang ymysg y grŵp mawr hwn o ymchwilwyr wedi
bod yn hynod galonogol.
"Credwn y gellir datblygu cyfuniadau sydd wedi'u cynllunio'n ofalus o
gemegau diwenwyn mewn modd fydd yn rhoi'r cyfle gorau posibl i ni atal y rhan
fwyaf o ganserau. Ar hyn o bryd, hyn a hyn o offer sydd gan glinigwyr i'w
helpu i drin y clefyd pan fydd yn ymwrthod â'r prif fathau o therapi. Fodd
bynnag, mae ymagwedd sy'n gallu cyrraedd sbectrwm eang o dargedau heb
ddefnyddio gwenwyn, yn hynod addawol."
Hwn oedd y tro cyntaf i dimau o ymchwilwyr gydag amrywiaeth mor eang o
arbenigedd ddod ynghyd i fynd i'r afael ag ailwaeledd, sy'n broblem gymhleth.
Erbyn hyn, mae'r timau'n credu y gellir datblygu cyfuniadau sydd wedi'u
cynllunio'n ofalus o gemegau diwenwyn mewn modd fydd yn rhoi'r cyfle gorau
posibl i ni atal y rhan fwyaf o ganserau.
Cynhaliodd cangen Caerdydd o'r ymchwil nifer o ymchwiliadau ynglŷn â'r cemegau
gwenwyn isel. Y gangen hon oedd yn arwain ar un o'i brif themâu hefyd:
goresgyniad a metastasis (lledaeniad) canser.
Ynghyd â gwyddonwyr o nifer o wledydd eraill yng Ngogledd America, Ewrop a'r
Dwyrain Pell, amlygodd y tîm gyfres o ffytogemegau a geir yn naturiol mewn
planhigion. Drwy gymysgu'r rhain, ggallant ymyrryd mewn metastasis – prif achos
marwolaethau canser.
Er enghraifft, cydweithiodd Prosiect Ymchwil Feddygol Gydweithredol Tsieina
Prifysgol Caerdydd (CCMRC) â Phrifysgol Peking, Prifysgol Medical Capital, a
Sefydliad Ymchwil Feddygol Yiling Tsieina i astudio meddygaeth lysieuol o'r enw
YangZheng XiaoJi, sydd â phriodweddau sy'n ymladd canser.Daeth i'r amlwg iddynt y gallai'r feddygaeth ymyrryd mewn metastasis canser
drwy dargedu'r pibelli gwaed newydd a ffurfir sy'n helpu'r tiwmor i dyfu, yn
ogystal â nifer o lwybrau signalau cellog mewn canser nad yw wedi lledaenu eto.
Meddai'r Athro Wen Jiang o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae
meddyginiaethau Tsieineaidd traddodiadol yn faes diddorol ar gyfer therapïau
canser newydd. Mae'r rhain yn fformwleiddiadau cymharol isel o ran gwenwyn a
chost, sydd wedi cael eu defnyddio ers canrifoedd. Er bod ymchwil ym maes
canser wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r ymchwil i gyfansoddion
i atal metastasis - proses sy'n gysylltiedig â phrognosis gwael i gleifion -
wedi bod yn gymharol brin.
"Mae ein gwaith ymchwil i YangZheng XiaoJi wedi ystyried effeithiolrwydd y
fformwleiddiad hwn wrth dargedu priodweddau ymosodol sy'n cefnogi metastatis
mewn amrywiaeth o fodelau canser dynol. Daeth i'r amlwg y gallai
YangZheng XioaJi amharu ar allu'r celloedd canser i gadw a mudo ac ymyrryd â
nifer o lwybrau signalau sy'n gysylltiedig â datblygiad canser.
"Ar ben hynny, gwelwyd bod y fformwleiddiad yn ymyrryd â'r broses lle mae
celloedd canser yn helpu i ffurfio pibelli gwaed newydd sy'n cael gafael ar y
maetholion sy'n angenrheidiol i gynnal eu datblygiad. Felly, gall hyn olygu bod
modd ffurfio cemegyn gwenwyn isel sy'n gallu targedu sawl agwedd ar ddatblygiad
canser.
Er bod yr ymchwilio'n parhau i sail foleciwlaidd y feddyginiaeth, mae nifer o
dreialon clinigol yn cael eu cynnal yn Tsieina ar hyn o bryd mewn cleifion sy'n
dioddef o ganser yr ysgyfaint, canser yr iau a chanser gastrig.
Yng ngoleuni'r dystiolaeth hon, mae'r tasglu'n galw am gynnydd ar unwaith yn y
gefnogaeth ar gyfer ymchwil i gymysgedd o gemegau sy'n gallu cyrraedd sbectrwm
eang o dargedau therapiwtig. Mae llawer o gwestiynau heb eu hateb o hyd, felly
mae angen treialon gydag anifeiliaid i ddatblygu'r dull hwn cyn bod modd cynnal
treialon gyda phobl.
"Dyma faes sy'n haeddu cryn sylw," meddai Dean Felsher MD PhD,
arweinydd tîm arall yn y tasglu, o'r Adran Meddygaeth ym Mhrifysgol
Stanford. "Mae'r ffordd yr ydym yn mynd ati i ddatblygu therapïau yn
gwella, ond mae angen ateb arnom fydd yn ein helpu i fynd i'r afael ag
ailwaeledd. Hwyrach mai'r ymagwedd gweddnewidiol hon fydd yn rhoi'r cyfle i ni
wneud hynny", ychwanegodd.
Mae'r tasglu hefyd am greu therapi a allai fod yn gymharol rad oherwydd tybir
bod sawl un o'r triniaethau canser diweddaraf yn rhy ddrud i wledydd incwm isel
i ganolig.
Felly, mae'r tasglu wedi gosod y seiliau ar gyfer ateb a ddylai fod yn rhad ac
yn effeithiol er mwyn sicrhau bod y dull newydd hwn ar gael i bobl ledled y byd
sy'n dioddef o ganser.