Master’s Excellence Scholarships success
9 Hydref 2019
Nifer uchaf erioed o ôl-raddedigion yr Ysgol yn manteisio ar gynllun teilyngdod y Brifysgol
Dyfarnwyd yr Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Meistr i ugain o fyfyrwyr sy'n astudio rhaglenni gradd meistr mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol, Ysgrifennu Creadigol, Llenyddiaeth Saesneg a Ieithyddiaeth Fforensig yn ystod y flwyddyn academaidd hon.
Dywedodd Martin Willis, Pennaeth yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth: “Mae'r Ysgol yn falch iawn y bydd gymaint o fyfyrwyr yn elwa ar y cynllun yng nghystadleuaeth eleni. Bydd gwobr o'r fath yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fyfyrwyr sy'n gwneud eu gradd Meistr. Mae gweld ein niferoedd uchaf hyd yma yn rhoi llawer o foddhad."
Unwaith eto eleni, mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i fuddsoddi hyd at £500,000 yn y cynllun ysgoloriaeth cystadleuol hwn, i gefnogi myfyrwyr y DU a'r UE sy'n astudio rhaglen meistr cymwys.
Mae'r Ysgoloriaethau werth o leiaf £3,000 yr un, a chânt eu dyfarnu ar ffurf gostyngiad ffioedd dysgu.
Yn ôl yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, “Bydd y pecyn hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o safon uchel astudio mewn prifysgol ymchwil-ddwys o'r radd flaenaf ac yn helpu i leddfu'r beichiau ariannol sy'n gysylltiedig".