Gofal brys yng Nghymru'n cael hwb hanfodol
17 Tachwedd 2015
Tim Rainer yn dychwelyd o Tsieina i ddod yn Athro Meddygaeth Frys - y cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd
Daeth Prifysgol
Caerdydd gam yn nes at wireddu ei huchelgais i arwain y blaen ym maes
meddygaeth frys wrth recriwtio ei Hathro Meddygaeth Frys cyntaf.
Mae'r Brifysgol a chyfoedion yn y GIG yn ystyried penodiad yr Athro Tim Rainer,
sy'n ymuno â'r Brifysgol o Ysbyty Tywysog Cymru Hong Kong, fel catalydd
arwyddocaol ar gyfer darparu gwell gofal brys ledled Cymru.
Ariennir rôl yr Athro Rainer ar y cyd gan y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol
Caerdydd a'r Fro, a bydd ei brofiad o ragoriaeth ym meysydd addysg, ymchwil ac
arloesedd gofal brys yn gryfder hanfodol ar gyfer denu a chadw'r meddygon gorau
yng Nghymru yn y maes meddygaeth hollbwysig hwn.
Wrth siarad am ei rôl newydd, dywedodd yr Athro Rainer: "Mae dod yn ôl
adref i Gaerdydd yn fy nghyffroi yn lân. Gallaf synhwyro awch y bobl yn y
Brifysgol, y Bwrdd Iechyd a'r adran achosion brys i wynebu heriau'r oes hon, ac
i arwain y blaen ym maes meddygaeth frys.
"Bydd canolbwyntio mwy ar feddygaeth frys yn arbed bywydau cleifion. Bydd yn arwain at ddefnyddio gwelyau ysbyty ac adnoddau gofal iechyd yn fwy effeithlon. Er bod salwch cronig yn flaenoriaeth bwysig heddiw, os nad yw pobl yn goroesi salwch acíwt, ni allant fyth wynebu salwch cronig.
"Hoffwn weld meddygaeth frys yng Nghaerdydd ymhlith y gorau yn y byd - lle sydd o fri a rhagoriaeth ryngwladol o ran addysg, ymchwil ac arloesedd gofal brys."
Dywedodd yr Athro John Bligh, Deon Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae'r Ysgol Meddygaeth yn ymfalchïo mewn creu gweithwyr meddygol proffesiynol o'r radd flaenaf. Bydd dyfodiad yr Athro Rainer yn sicr yn ein helpu i gynnal y safonau uchel hyn, a'u datblygu ymhellach.
"Mae Meddygaeth Frys yn wasanaeth rheng flaen hanfodol y mae'n rhaid ei gyflawni'n ddiogel ac yn gywir ar gyfer pob claf, bob amser. Mae datblygu'r ddisgyblaeth hon mewn ffyrdd newydd ac arloesol yn newyddion da iawn, nid yn unig i gleifion sydd â salwch ac anafiadau acíwt, ond hefyd i'r elfennau di-rif o ofal meddygol sy'n deillio o adran achosion brys."
Dywedodd Dr
Graham Shortland, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Caerdydd a'r Fro: "Mae'n bleser gennym groesawu Tim yn ôl i Gymru ac i'r
rôl newydd hon ar y Bwrdd Iechyd. Daw â chyfoeth o brofiad clinigol gydag ef,
yn enwedig yn sgîl ei uwch-rôl ddiweddar yn Ysbyty Tywysog Cymru, Hong Kong, a
fydd o fudd uniongyrchol wrth wella'r gwasanaethau ar gyfer ein cleifion.
"Yn benodol, gwn ei fod am ganolbwyntio ar wella'r dulliau addysgu yn ein
huned achosion brys, gan ddarparu canolbwynt academaidd ar gyfer ymchwil
pellach, a chwarae rôl allweddol o ran denu mwy o bobl o'i safon a'i brofiad ef
i weithio yng Nghaerdydd."
Meddygaeth frys yw'r astudiaeth a'r arfer o reoli salwch neu anaf acíwt sy'n peryglu bywydau. Dyma'r unig faes meddygol sy'n gweld cleifion ar unrhyw adeg, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ni waeth beth fo'r amodau.