Ewch i’r prif gynnwys

Ymunwch â'r Sgwrs

17 Tachwedd 2015

The Conversation logo

Mae barn a safbwyntiau arbenigol academyddion blaenllaw'r Brifysgol wedi denu 1.5m o ddarllenwyr ledled y byd ers lansio gwefan arloesol sy'n ceisio cau'r bwlch rhwng newyddiadurwyr ac academyddion.  

Prosiect ar y cyd rhwng newyddiadurwyr proffesiynol ac academyddion o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r DU yw The Conversation, a chafodd ei lansio fis Mai 2013.

Mae'r wefan yn rhoi dadansoddiad a sylw deallus am y newyddion, a gallwch ei ddarllen a'i ailgyhoeddi'n rhad ac am ddim. Mae academyddion ledled y Brifysgol wedi cyhoeddi dros 300 o erthyglau gan ddenu 1.5m o ddarllenwyr. 

Dr John Jewell o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yw un o gyfranwyr mwyaf cyson y Brifysgol.

"Rydw i'n cyfrannu'n rheolaidd ar wefan The Conversation. Mae'r wefan newyddiadurol yma'n rhoi cynnwys sydd wedi'i ddarparu gan academyddion o bob disgyblaeth ac o gefndiroedd cenedlaethol a rhyngwladol,' meddai Dr Jewell.

"Mae fy mhrofiadau i wedi bod yn rhai cyfan gwbl gadarnhaol. Rydw i wedi cael y cyfle i ysgrifennu erthyglau byr, tebyg i rai a welwch mewn papurau newydd, am amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â'r cyfryngau. Mae rhai ohonynt wedi cael eu defnyddio gan wefannau Huffington Post a Business Insider,".

Gall pawb fynd i'r safle a darllen ei chynnwys yn rhad ac am ddim. Mae'n adnodd yn y cyfryngau y gallwch ei ddefnyddio i ailgyhoeddi pob erthygl. Mae hefyd yn ffynhonnell syniadau ar gyfer storïau ac yn cynnig lleisiau newydd i'w cyfweld.

Mae academyddion y Brifysgol wedi cynnig eu harbenigedd a'u gwybodaeth fanwl am lu o bynciau gan gynnwys cynnal dadansoddiad manwl o sgandal allyriadau VW, chwalu'r honiadau fod y BBC yn unochrog, a gwyngalchu arian yn y byd pêl-droed.

Mae Dr Jewell o'r farn bod cyfrannu ar wefan The Conversation yn cynnig adnodd pwysig sydd ar gael i'r gymuned academaidd.

Ychwanegodd Dr Jewell: "Dyma ddull sy'n galluogi gwaith academaidd i fod yn rhydd o gyfyngiadau'r cyfnodolyn neu'r adroddiad. Mae'r erthyglau ar y wefan hon wedi'u hysgrifennu ar gyfer y cyhoedd yn ogystal ag academyddion.

"Yn hanfodol, nid chaiff ansawdd neu drylwyredd eu haberthu. Mae adran reolaidd 'hard evidence' yn arddangos yr ymchwil a'r dadansoddiadau empirig diweddaraf.

"Ac mae'n amlwg bod pobl am ddarllen y gwaith. Mae erthygl fy nghydweithiwr, Mike Berry, am unochrogrwydd yn y BBC wedi denu bron i 150,000 o ymweliadau hyd yma, a chafodd ei hailargraffu yn y New Statesman.

"Yn fy marn i, mae The Conversation yn ychwanegu'n sylweddol at yr amgylchedd academaidd. Mae'n arddangos ymchwil, yn amlygu gwaith y tu hwnt i gynulleidfaoedd arferol, ac yn gosod Caerdydd ar flaen y gad mewn datblygiad byd-eang sy'n galluogi prifysgolion i gyflwyno cynnyrch mewn ffyrdd mwy amrywiol.

"Mae'n fwy na phosibl y daw yn adnodd hynod werthfawr yn y dyfodol."

Mae'r holl erthyglau a ysgrifennwyd gan academyddion Prifysgol Caerdydd ar gael i'w darllen yn: http://theconversation.com/institutions/cardiff-university

Cewch ragor o wybodaeth am ysgrifennu ar wefan The Conversation yn: https://theconversation.com/become-an-author

Rhannu’r stori hon