Y Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd yn lansio yn San Steffan
18 Tachwedd 2015
Partneriaeth rhwng diwydiant a’r byd academaidd yn cael ei lansio’n ffurfiol
Mae'n bosibl y bydd y weledigaeth hon o greu clwstwr yn creu 5,000 o swyddi newydd, ac mae'n seiliedig ar fenter ar y cyd rhwng IQE plc – y prif gyflenwr byd-eang ar gyfer uwch-wafferi lled-ddargludo – a Phrifysgol Caerdydd. Gyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru y tu ôl iddi, nod y bartneriaeth hon yw adeiladu canolfan ragoriaeth sy'n cynrychioli carreg filltir allweddol ar gyfer datblygu a masnacheiddio technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y dyfodol.
Mae pedwar clwstwr sylweddol sy'n seiliedig ar dechnolegau silicon eisoes yn bodoli yn Ewrop, ond y Ganolfan hon yng Nghaerdydd fydd y gyntaf i ddatblygu potensial cyffrous Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Mae'r rhain yn gydrannau hanfodol a gaiff eu defnyddio mewn llawer o raglenni technoleg-uchel heddiw, gan gynnwys rhwydweithiau cyfathrebu a dyfeisiau megis ffonau clyfar a llechi.
Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn gallu perfformio ar lefel uchel. Maent yn ynni effeithlon ac mae ganddynt nodweddion ffotoneg. Dywed eu bod yn dechnoleg allweddol sy'n sbarduno twf economaidd a nodir yn strategaeth twf economaidd "Horizon 2020" y Comisiwn Ewropeaidd, sydd am weld diwydiant cryf yn yr UE unwaith eto.
Gallai'r clwstwr arfaethedig greu hyd at 5,000 o swyddi yn y rhanbarth yn ystod y pum mlynedd nesaf. Byddai'n ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau yn y DU (a rhanbarthau ehangach yn yr UE) sy'n ceisio adennill y farchnad gweithgynhyrchu technoleg werthfawr oddi wrth cystadleuwyr yn Nwyrain Asia.
Caiff y bartneriaeth ei lansio yng Nghastell Caerdydd yr wythnos nesaf hefyd (26 Tachwedd). Yn rhan o'r bartneriaeth hon, bydd IQE plc yng Nghaerdydd, y mae ei dechnoleg i'w gweld yn y rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol yn y farchnad fyd-eang, yn cydweithio'n agos â Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) newydd Prifysgol Caerdydd, sydd werth £40 miliwn.
Yn ôl Dr Drew Nelson, Prif Weithredwr IQE: "Mae llawer o'r dechnoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd a ddefnyddir mewn dyfeisiau ar draws y byd, yn cael eu datblygu a'u gweithgynhyrchu yng Nghymru. Ond mae technoleg yn esblygu'n gyflym. Yn aml yn y DU, rydym yn methu cymryd y camau sydd eu hangen i fasnacheiddio'r gweithgarwch ymchwil a datblygu drwy arloesedd a gweithgynhyrchu.
"Dyma pam yr ydym am greu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, ac mae paratoi Prifysgol Caerdydd a rhoi seilwaith academaidd y DU ar waith yn creu sail gref iawn er mwyn ein galluogi i ffurfio'r clwstwr hwn."
Mae'r CSC yn eiddo i Brifysgol Caerdydd ac IQE plc, ac yn cael ei rheoli gan y ddau gorff. Hyd yma, mae Prifysgol Caerdydd wedi cyfrannu £12 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf yn y fenter, ac mae IQE wedi darparu caledwedd, adeiladau a seilwaith, yn ogystal â thrwyddedu rhywfaint o eiddo deallusol i'r CSC.
Mae'r ICS yn rhan o fuddsoddiad £300m Prifysgol Caerdydd mewn canolfannau ymchwil ac arloesi newydd, ac mae ei botensial eisoes wedi'i gydnabod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sydd wedi buddsoddi dros £29m tuag at ei greu.
Mae'r Athro Diana Huffaker, Cadeirydd Deunyddiau ac Uwch-beirianneg Sêr Cymru, wedi ymuno o UCLA yn yr Unol Daleithiau i ddod yn Gyfarwyddwr ICS Prifysgol Caerdydd:
Dywedodd yr Athro Huffaker: "Mae'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn gyfleuster unigryw. Mae'n dwyn ynghyd ymchwil Prifysgol Caerdydd, ochr yn ochr â chynhyrchiant diwydiannol IQE a phartneriaid diwydiannol yn y dyfodol. Yn y bôn, mae'r bartneriaeth yn pontio gwaith ymchwil sylfaenol a thechnoleg fasnachol. Bydd yn meithrin addysg ar bob lefel ac yn helpu i greu swyddi yng Nghaerdydd a Chymru. Mae'r fenter yn gyfle i IQE roi cynnig ar syniadau arbrofol y maent yn credu y byddant yn bwysig, ac mae Prifysgol Caerdydd yn elwa ar gyfeiriad busnes IQE. Bydd CSC ac ICS ar agor i unrhyw ddefnyddwyr diwydiannol ac academaidd sydd â diddordeb."
Gyda'i gilydd, mae'r ICS, y fenter ar y cyd, a gweithgarwch lled-ddargludyddion cyfansawdd blaenllaw presennol IQE yng Nghaerdydd, yn sefydlu elfennau craidd ecosystem lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru, i bontio gwaith ymchwil cynnar, datblygu cynnyrch, datblygu prototeipiau a chynhyrchu peilot, a gweithgynhyrchu ar raddfa fawr.