Rhannu profiadau a gwersi ar ddatblygu ieithoedd lleiafrifol
16 Tachwedd 2015
Croesawodd academyddion cynllunio a pholisi iaith Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ymchwilydd o Sefydliad Brenhinol Diwylliant Amazigh (Berber) Moroco, yr wythnos hon.
Mae Dr Khalid Ansar yn ymchwilydd iaith yn y Sefydliad Brenhinol, ac yn ymweld â Chymru er mwyn datblygu ei ddealltwriaeth o'r profiad Cymreig o gynllunio ieithyddol a hynny er mwyn llywio ei waith ym Moroco.
Mae Amazigh, neu Berber (sydd yn gasgliad o ieithoedd a thafodieithoedd tebyg), yn gynhenid i Ogledd Affrica. Mae niferoedd mawr o siaradwyr Berber ym Moroco ac Algeria, ac i raddau llai mewn gwledydd fel Libya a Thiwnisia. Daeth Berber yn iaith swyddogol ym Moroco yn 2011.
Bu symudiad ymhlith cymdeithasau Amazigh i uno a chyfuno gwahanol amrywiadau o Amazigh fel iaith safonol. Ers ymsefydlu’r Sefydliad Brenhinol Diwylliant Amazigh mae ei ymchwilwyr wedi chwarae rhan sylweddol yn y broses o safoni’r iaith, gyda’r ffocws ar ddatblygu a lledaenu iaith mewn tri maes yn benodol – Y Cyfryngau, Addysg a Gweinyddiaeth.
Dywedodd Dr Ansar: "Rydym yn gweithio i adfywio a datblygu iaith a safoni Amazigh ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol y wlad. Mae'n dipyn o dasg, oherwydd yr angen i ffurfio geiriau a geiriaduron newydd ochr yn ochr â chofnodi a mapio'r iaith gyfoes. Rydym yn awyddus i ddysgu o brofiad y Cymry a’r Gymraeg wrth gynllunio iaith ac rwy'n falch o gyfarfod â'r academyddion yma yn Ysgol y Gymraeg.”
Dywed yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost, o Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio’r Ysgol: “Rydym wedi bod yn hapus iawn i groesawu Dr Ansar i'r Ysgol ac yn awyddus i gymharu nodiadau ar ein profiadau am faterion ieithyddol. Mae Moroco ac Amazigh yn cynnig astudiaeth achos diddorol iawn o'r cymhlethdodau a heriau o gynllunio a pholisi iaith. Er yn wahanol mewn sawl ffordd, mae yna fodd bynnag, debygrwydd gyda’r profiad Cymreig o hyrwyddo, cadwraeth ac esblygiad iaith.”
Mae gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, hanes hir o ragoriaeth mewn ymchwil cynllunio, polisi a chaffael iaith.
Crewyd y Sefydliad Brenhinol Diwylliant Amazigh yn 2001 gan y Brenin Mohammed VI. Mae gwaith y Sefydliad Brenhinol yn cynnwys cynnal a datblygu'r iaith Berber gan atgyfnerthu’r diwylliant Berber yn y cyfryngau a'r gymdeithas ehangach ac integreiddio'r iaith i'r system addysg.