Amlieithrwydd o dan y chwyddwydr
10 Tachwedd 2015
Croesawodd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Ei Ardderchogrwydd Mr Dominik Furgler, Llysgennad y Swistir i’r Deyrnas Unedig ar Ddydd Gwener 23 Hydref 2015.
Roedd Llysgennad Furgler yng Nghymru i gyflwyno Cyngerdd Gwobr Llysgennad y Swistir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Eleni, dyfarnwyd y Wobr i'r ddeuawd Viviane Chassot (acordion) a David Pia (cello). Mae Caerdydd, Llundain, Belfast a Chaeredin nawr yn lleoliadau rheolaidd ar daith gyngerdd Enillydd y Wobr.
Roedd mwy na 45 o bobl yn bresennol yng nghyflwyniad Llysgennad Furgler a oedd yn canolbwyntio ar amlieithrwydd yn y Swistir. Mae gan y Swistir bedair iaith swyddogol - Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Romansh, iaith Romáwns sydd yn deillio o iaith lafar Lladin yn Oes y Rhufeiniaid. Yn y Swistir mae hi’n orfodol i blant ysgol ddysgu un iaith swyddogol ychwanegol sydd yn hybu cyfraddau uchel o ddwyieithrwydd.
Roedd pwnc y cyflwyniad o ddiddordeb i Ysgol y Gymraeg a’r gwesteion o ystyried hanes ieithyddol a diwylliannol cyfoethog Cymru, gan gynnwys y traddodiad tafodieithol.
Wrth groesawu'r Llysgennad i Gaerdydd, dywedodd yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost, aelod o Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio Ysgol y Gymraeg: "Hoffwn ddiolch i Lysgennad Furgler am ymweld â ni yma yn yr Ysgol.
"Mae gan y Swistir hanes o ddatblygiad diwylliannol, gwleidyddol ac ieithyddol diddorol iawn. Mae cyflwyniad y Llysgennad yn rhoi inni gipolwg ysgogol ar amlieithrwydd a gwarchod iaith, yn ogystal â chymharydd defnyddiol ar gyfer ein profiadau ni yng Nghymru.
“Mae iaith yn thema ymchwil pwysig, a llwyddiannus, i’r Ysgol. Mae nifer fawr o’n staff yn gweithio ar brosiectau sydd yn ymwneud a chynllunio a chaffael iaith yn ogystal â thafodieithoedd a sosioieithyddiaeth. Mae’r Ysgol hefyd yn rhan o brosiect newydd, mewn partneriaeth gyda’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, sydd yn ymwneud â chadwraeth iaith a datblygu'r corpws cyntaf, ar raddfa fawr, o'r iaith Gymraeg.”
Wrth drafod ei ymweliad â Chymru a Phrifysgol Caerdydd, dywedodd y Llysgennad: “Er y gall amlieithrwydd ond cael ei asesu'n llawn yn erbyn cefndir o sefyllfa unigryw pob gwlad a gall achosi heriau mawr, nid oes amheuaeth ei fod yn creu cyfleoedd a manteision enfawr, boed hynny ar y lefel ddiwylliannol, ddeallusol neu economaidd. Mae’n hanfodol felly i’r Swistir fuddsoddi mewn hyfforddiant iaith (gan gynnwys Saesneg), cyfnewid diwylliannol ac ieithyddol, symudedd ei phobl ac integreiddio mewnfudwyr. Mae amlieithrwydd yn gonglfaen i hunaniaeth genedlaethol y Swistir.”
Penodwyd Llysgennad Furgler i'w swydd ym mis Gorffennaf 2013 ac mae ganddo yrfa ddiplomataidd hir a nodedig gan gynnwys cyfnod fel Llysgennad i’r Aifft. Ymunodd ag Adran Ffederal Materion Tramor y Swistir yn wreiddiol ym 1985.