Brecwast da, graddau da?
17 Tachwedd 2015
Mewn astudiaeth newydd arloesol a gynhaliwyd gan arbenigwyr iechyd y cyhoedd ym Mhrifysgol Caerdydd, dangoswyd cyswllt uniongyrchol a chadarnhaol rhwng disgyblion yn bwyta brecwast, ac ansawdd y brecwast o dan sylw, a'u cyrhaeddiad addysgol, a hynny am y tro cyntaf erioed.
Diben yr astudiaeth o 5000 o blant 9-11 oed o dros 100 o ysgolion cynradd yng Nghymru oedd archwilio'r cyswllt rhwng bwyta brecwast, ac ansawdd y brecwast hwnnw, a chyrhaeddiad dilynol mewn Asesiadau Statudol gan Athrawon* yng Nghyfnod Allweddol 2, 6-18 mis wedyn.
Mae'n debyg mai'r astudiaeth hon yw'r fwyaf hyd yma, sy'n edrych ar yr effeithiau hydredol ar berfformiad ysgol safonol. Canfu fod plant sy'n bwyta brecwast, ac sy'n bwyta brecwast o ansawdd gwell, yn cael gwell canlyniadau academaidd.
Yn ôl yr ymchwil, o'i gymharu â'r disgyblion oedd yn mynd i'r ysgol heb gael brecwast, roedd y disgyblion oedd wedi cael brecwast ddwywaith yn fwy tebygol o wneud yn well na'r cyfartaledd o ran perfformiad addysgol.
Dywedodd 1 plentyn o bob 5 ei fod yn bwyta eitemau nad ydynt yn iach, fel losin a chreision, i frecwast, ond nid oedd hyn yn cael unrhyw effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad addysgol.
Gofynnwyd i ddisgyblion restru'r holl fwydydd a diod roeddent wedi'i gael dros gyfnod o ychydig dros 24 awr (gan gynnwys dau frecwast), gan nodi beth yr oeddent yn ei fwyta a'i yfed ar adegau penodol drwy gydol y diwrnod blaenorol, ac i frecwast y diwrnod hwnnw.
Ochr yn ochr â nifer o eitemau brecwast iach a oedd yn cael eu bwyta i frecwast, roedd gan ymddygiad deietegol arall - gan gynnwys sawl math o losin a chreision a ffrwythau a llysiau a gafodd eu bwyta drwy gydol y dydd - i gyd gysylltiad arwyddocaol a chadarnhaol â pherfformiad addysgol.
Dywed gwyddonwyr cymdeithasol fod y gwaith ymchwil, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Public Health Nutrition, yn rhoi'r dystiolaeth orau hyd yma o gysylltiad ystyrlon rhwng ymddygiad deietegol a mesurau cadarn o gyrhaeddiad academaidd.
Dywedodd Hannah Littlecott o Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), Prifysgol Caerdydd, prif awdur yr astudiaeth: "Er bod bwyta brecwast yn cael ei gysylltu'n aml â chanlyniadau iechyd cyffredinol a mesurau manwl o allu i ganolbwyntio a gweithgarwch gwybyddol, nid yw'r dystiolaeth ynghylch cysylltiadau â chanlyniadau addysgol cadarn wedi bod yn glir hyd yma. Felly, mae'r astudiaeth yn rhoi'r dystiolaeth orau hyd yma o'r cysylltiadau rhwng agweddau ar beth mae disgyblion yn ei fwyta a'u llwyddiant yn yr ysgol, sydd â goblygiadau pwysig ar gyfer polisïau addysg ac iechyd y cyhoedd. Mae hyn yn arwyddocaol iawn yng ngoleuni'r si y gallai prydau ysgol am ddim gael eu dileu ar ôl adolygiad o wariant George Osborne ym mis Tachwedd.
"Gall neilltuo amser ac adnoddau i wella iechyd plant ymddangos fel gwaith diangen i ysgolion, sy'n tynnu eu sylw oddi ar eu prif orchwyl, sef addysgu disgyblion. Mae hyn, yn rhannol, oherwydd y pwysau sy'n rhoi'r ffocws ar godi cyrhaeddiad addysgol yn unig. Ond mae'r gwrthwynebiad hwn i gyflawni ymyriadau i wella iechyd yn anwybyddu'r cysylltiad amlwg rhwng iechyd ac addysg. Gallai ymgorffori gwelliannau iechyd i weithgarwch craidd yr ysgol arwain at welliannau addysgol hefyd."
Ychwanegodd Dr Graham Moore, cyd-awdur yr adroddiad: "Mae'r rhan fwyaf o ysgolion cynradd yng Nghymru bellach yn gallu cynnig brecwast am ddim, gydag arian gan Lywodraeth Cymru. Roedd ein papurau cynharach ar ôl treialu'r cynllun hwn ledled Cymru yn dangos ei fod yn effeithiol o ran gwella ansawdd brecwast plant, er bod llai o dystiolaeth glir bod y cynllun yn lleihau'r achosion o fynd heb frecwast.
"Mae cysylltu ein data â data perfformiad addysgol go iawn wedi ein galluogi i ddarparu tystiolaeth gadarn o'r cyswllt rhwng bwyta brecwast a llwyddo yn yr ysgol. Felly, mae rheswm da dros gredu y byddai ysgolion yn manteisio'n sylweddol yn addysgol pa gallant ddod o hyd i ffyrdd o annog y bobl ifanc hynny nad ydynt yn bwyta brecwast adre i wneud hynny yn yr ysgol."
Roedd yr Athro Chris Bonell, Athro Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain, yn croesawu canfyddiadau'r astudiaeth. Dywedodd: "Mae'r astudiaeth hon yn ychwanegu at gorff cynyddol o dystiolaeth ryngwladol sy'n awgrymu bod buddsoddi adnoddau mewn ymyriadau effeithiol i wella iechyd pobl ifanc hefyd yn debygol o wella eu perfformiad addysgol. Mae hyn yn pwysleisio ymhellach yr angen i ysgolion ganolbwyntio ar iechyd ac addysg eu disgyblion fel blaenoriaethau sy'n ategu ei gilydd, yn hytrach na chystadlu yn erbyn ei gilydd. Mae llawer o ysgolion ledled y DU bellach yn cynnig brecwast i'w disgyblion. Gallai gwneud yn siŵr bod y bobl ifanc hynny sydd fwyaf mewn angen yn elwa ar y cynlluniau hyn, gynnig dull pwysig o hybu perfformiad addysgol pobl ifanc ledled y DU".