Llysgennad Portiwgal yn ymweld â Chymru
16 Tachwedd 2015
Heddiw (16 Tachwedd), bydd Llysgennad Portiwgal yn y DU yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd i lansio gradd gyntaf Cymru mewn Portiwgaleg.
Bydd Ei Ardderchogrwydd, Mr Joao de Vallera, yn lansio'r radd newydd mewn digwyddiad 'Gŵyl Diwylliant Portiwgal' a drefnir gan y Brifysgol. Yn bresennol, bydd staff, myfyrwyr, cynrychiolydd Sefydliad Camões, Regina Duarte, a'r bardd a'r nofelydd o Bortiwgal, Ana Luísa Amaral.
Mae Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â grŵp dethol o brifysgolion yn y DU i lofnodi cytundeb â Camões, Instituto da Língua e da Cooperação - asiantaeth llywodraeth Portiwgal sy'n gyfrifol am gefnogi addysgu Portiwgaleg mewn ysgolion a phrifysgolion.
Mae'r cytundeb yn paratoi'r ffordd i gyflwyno rhaglen gradd Portiwgaleg sydd newydd ei dilysu.
Mae'r cyhoeddiad yn dangos ymrwymiad y Brifysgol i gydnabod Portiwgaleg fel iaith twf byd-eang; un o ddeg i gael eu cydnabod yn ddiweddar gan y Cyngor Prydeinig fel ieithoedd sy'n hanfodol ar gyfer ffyniant, diogelwch a dylanwad y DU yng ngweddill y byd yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Bydd myfyrwyr y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn gallu astudio Portiwgaleg o lefel dechreuwyr i lefel uwch.
Mae'r Cytundeb hefyd yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer prosiectau ymchwil cydweithredol pwysig. Mae Caerdydd eisoes wedi gweithio gyda Sefydliad Camões, King's College Llundain a'r Sefydliad Ymchwil Ieithoedd Modern (IMLR) i lansio cyfres o ddigwyddiadau ar y cyd sy'n ymwneud ag Astudiaethau Portiwgaleg.
Bydd myfyrwyr ac athrawon o Ysgol Clywedig, Wrecsam, yn dod i'r digwyddiad heddiw hefyd. Mae myfyrwyr Cymraeg a Phortiwgaleg yr ysgol wedi bod yn gweithio gyda'r Brifysgol ar brosiect ymchwil i gasglu data o ganmlwyddiant Rhyfel Byd Cyntaf Portiwgal yn Ffrainc.
Yn ôl Dr Rhian Atkin, Arweinydd Rhaglen Portiwgaleg Ysgol Ieithoedd Modern y Brifysgol: "Ieithoedd yw sylfaen treftadaeth ddiwylliannol y byd, ac mae gwaith ymchwil gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn dangos bod nifer y myfyrwyr Portiwgaleg israddedig mewn prifysgolion yn y DU wedi codi 56% ers 2007-8; gan ddangos cydnabyddiaeth gynyddol i'w phwysigrwydd fel iaith twf byd-eang strategol.
"Mae penderfyniad y Brifysgol a Sefydliad Camões i gyd-fuddsoddi mewn addysg Bortiwgaleg yn y Brifysgol yn arwydd pellach o gydnabod pwysigrwydd dysgu ieithoedd yn y DU, er mwyn diogelu cyfleoedd i fyfyrwyr fod yn rhyngwladol.
"Mae'n anrhydedd i ni gael cefnogaeth Sefydliad Camões a Llysgennad Portiwgal, ac mae'n gyfle gwych i'n myfyrwyr gael blas ar y cyfleoedd a allai godi yn sgîl gradd mewn Portiwgaleg.
"Fel adran ymchwil, rydym eisoes wedi croesawu ymwelwyr o UDA, Portiwgal a Brasil i weithio gyda ni, ac mae gennym raglen gyffrous o ddigwyddiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf. I fyfyrwyr sydd am astudio Portiwgaleg yng Nghymru, mae'r cyrsiau bellach ar agor ar gyfer ceisiadau drwy UCAS. Edrychwn ymlaen at groesawu myfyrwyr sydd heb unrhyw wybodaeth flaenorol, yn ogystal â myfyrwyr sydd eisoes yn siarad Portiwgaleg, i astudio gyda ni yng Nghaerdydd. "