Ewch i’r prif gynnwys

Rhaid ‘cydnabod gwerth’ amser ymarfer corff menywod

19 Medi 2019

Woman running in park

Mae menywod yn elwa’n fawr ar redeg, ond rhaid i gymdeithas wneud yn siŵr nad yw eu hymrwymiadau i’r gwaith neu’r teulu darfu ar eu hamser i wneud ymarfer corff, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Partnerodd ymchwilwyr â Run 4 Wales, sy’n trefnu Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd, er mwyn ymchwilio i pam mae menywod yn rhedeg a’r ffactorau sy’n eu hatal.

Dywedodd menywod fod rhedeg yn hybu eu hiechyd corfforol a meddyliol, yn lleddfu gorbryder ac yn gwella eu lles.

Canfu’r astudiaeth hefyd fod pwysau ynghylch y teulu a’r gwaith yn tarfu ar eu hamser rhedeg, sy’n cefnogi'r dystiolaeth gan Run 4 Wales sy'n dangos mai mwy o fenywod na dynion sy’n tynnu allan cyn rasys.

Dr Sara MacBride-Stewart, o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, arweiniodd yr ymchwil ochr yn ochr â’i chydweithiwr Dr Charlotte Brookfield.

“Yr hyn rydym wedi’i ganfod yw bod menywod yn gwerthfawrogi manteision rhedeg ar gyfer eu ffitrwydd a’u hiechyd meddwl, ond weithiau, nid ydynt yn teimlo bod ganddynt amser i redeg oherwydd pwysau gan y gwaith a’r teulu,” meddai Dr MacBride-Stewart.

“Os mai'r hyn sy'n cael ei golli oherwydd pwysau’r ymrwymiadau hyn yw amser gwerthfawr i redeg a gwneud ymarfer corff, efallai bydd angen i ni wneud mwy fel cymdeithas i wneud yn siŵr bod amser i wneud ymarfer corff yn cael ei werthfawrogi a’i flaenoriaethu.

“Gallai hyn gynnwys gwneud yn siŵr bod gan fenywod leoedd da i redeg sy’n hygyrch, fel nad yw hyn yn ffactor arall sy'n eu rhwystro rhag rhedeg.”

#WhyWeRun

Mae’r astudiaeth yn rhan o ymgyrch #WhyWeRun Run 4 Wales ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd, er mwyn dathlu cynnydd menywod sy’n rhedeg.

Anfonodd ymchwilwyr holiadur i’r holl fenywod a gofrestrodd i redeg yn y ras eleni.

Ymatebodd bron i fil ohonynt iddo, a dywedodd 90% mai lles i’w hiechyd corfforol yw un o’u rhesymau dros redeg. Gwnaeth 74% sôn am les i’w hiechyd meddwl, 71% am gyflawni nodau personol a 70% am reoli pwysau.

Ond dywedodd 42% fod eu hymrwymiadau gwaith wedi tarfu ar eu gallu i ymarfer, tra gwnaeth 39% sôn am ddiffyg amser, 37% am ymrwymiadau teuluol a 36% am salwch/anafiadau.

Eleni, mae mwy o fenywod na dynion wedi cofrestru ar gyfer y ras eleni ar 6 Hydref, ac mae’r trefnwyr yn disgwyl mwyafrif benywaidd i redeg digwyddiad torfol mwyaf Cymru am y tro cyntaf yn ei hanes.

Hefyd, gwnaeth mwy o fenywod na dynion gofrestru ar ei chyfer yn 2018, ond mwyafrif o ddynion ddechreuodd y ras ar y diwrnod.

Meddai Dr MacBride-Stewart: “Dywedodd menywod fod y lles mwyaf yn gysylltiedig â sut mae rhedeg yn gwneud iddynt deimlo - mae rhedeg yn codi hwyliau a ffitrwydd; mae’n ymlaciol, yn clirio’r meddwl, yn lleddfu gorbryder ac yn meithrin ymdeimlad da am eu hunain."

Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Yn ystod ymgyrch #WhyWeRun eleni, rydym wedi ymgysylltu â channoedd o fenywod i glywed eu rhesymau dros redeg.

“Y themâu mwyaf cyffredin yn yr ymatebion drwy’r cyfryngau cymdeithasol oedd sut gall rhedeg leddfu straen a meithrin ymdeimladau o ryddid a lonydd. Mae ymchwil academaidd Prifysgol Caerdydd yn ategu’r theori bod cysylltiad hanfodol rhwng iechyd meddwl ac iechyd chorfforol.

“Mae mwy o fenywod nag erioed yn clymu careiau eu sgidiau rhedeg yng Nghymru oherwydd y rhesymau a amlinellwyd yn yr astudiaeth hon gan Brifysgol Caerdydd. Byddwn yn gweld enghraifft arall o redeg torfol pan fydd 27,500 o gyfranogwyr yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar 6 Hydref.”

Anogir y rhedwyr benywaidd yn Hanner Marathon Caerdydd eleni i lenwi’r holiadur, sydd ar gael ar-lein.

Hefyd, mae ymchwilwyr yn dadansoddi canlyniadau gan grwpiau ffocws gyda menywod mewn cymunedau lleol, er mwyn dysgu mwy am brofiadau o redeg yn yr ardaloedd hynny.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.