Ysgolion yn dathlu llwyddiant cwis gwyddonol
19 Medi 2019
Mae ysgolion o ogledd a de Cymru wedi curo dwsinau o gystadleuwyr ar draws Cymru i ennill cystadleuaeth wyddonol a drefnwyd gan Brifysgol Caerdydd.
Enillodd Ysgol Tryfan o Fangor, Gwynedd, ac Ysgol Brynteg o Ben-y-bont ar Ogwr gwis blynyddol Her y Gwyddorau Bywyd a gynhelir gan yr Ysgol Meddygaeth.
Mae’r digwyddiad ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 10 yn cynnwys cystadlaethau cyfochrog ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg, ac fe ddenodd bron i 500 o ddisgyblion.
Ei nod yw ysbrydoli’r disgyblion i ystyried gyrfaoedd ym maes gwyddoniaeth ac annog chwilfrydedd am fyd natur.
Mae pob tîm yn cynnwys pedwar aelod sydd â diddordeb mewn mathemateg, gwyddoniaeth a’r byd o’u cwmpas.
Cynhelir y cwis, a ddechreuodd gyda rowndiau cychwynnol ym mis Chwefror, gan fyfyrwyr PhD, myfyrwyr meddygaeth, gwyddonwyr ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Cynhaliwyd y rowndiau terfynol ar 13 Medi ym mhrif ddarlithfa y cyfleuster addysg yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Yr ysgolion a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Ysgol Brynteg v Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, Dinbych (Saesneg) ac Ysgol Bro Morgannwg, y Barri v Ysgol Tryfan (Cymraeg).
Cyflwynir tlws a siec o £150 i’r ddwy ysgol i’w wario ar wyddoniaeth yn yr ysgol.
Noddir y rhoddion gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) Cymru.
Mae’r cwis yn rhan o weithgareddau rhaglen ‘Gwyddoniaeth ym maes Iechyd’ Ysgol Meddygaeth Caerdydd. Mae’r gweithgareddau hefyd yn cynnwys digwyddiad blynyddol ‘Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw’ ym mis Mawrth, cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus rhwng mis Hydref a Mawrth, a’r Cynllun Profiad Gwaith a gynhelir ym mis Mehefin/Gorffennaf (www.caerdydd.ac.uk/scienceinhealth).