Enillwyr ysgoloriaethau 2015 yn derbyn croeso cynnes gan yr Ysgol
11 Tachwedd 2015
Eleni, cynigiwyd dros £100,000 mewn ysgoloriaethau gan Ysgol y Gymraeg i ddarpar fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.
Cynigwyd cyfran o’r arian i’r rhai a oedd yn ymuno â ni ar gyfer astudiaethau israddedig, gan gynnwys £15,000 ar gyfer ysgoloriaeth newydd, sef yr Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol. Bwriad Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol yw annog a dathlu creadigrwydd ymysg ein darpar fyfyrwyr gan ofyn iddynt gyflwyno eu cais mewn ffordd ffres a gwreiddiol.
Derbyniwyd nifer o geisiadau disglair gan ymgeiswyr o bob cwr o Gymru gyda fideos, posteri, cerddi a darnau o gelf yn cyrraedd Swyddfa’r Ysgol.
Y pump a ddaeth i’r brig eleni, ac sy’n derbyn £3,000 yr un, yw:
- Lucy Boughton
- Rhian Floyd
- Rhydian Jenkins
- Esyllt Lewis
- Erin Fflur Williams
Meddai Dr Rhiannon Marks, Swyddog Derbyn Ysgol y Gymraeg: "Hwn oedd y tro cyntaf inni fel Ysgol gynnig ysgoloriaeth o'r fath ac roedd safon y ceisiadau yn eithriadol. Mae’r pump a oedd yn llwyddiannus eleni yn hynod haeddiannol o’r wobr ac rwy’n edrych ymlaen at ddod i’w hadnabod yn well a dilyn hynt eu gyrfa academaidd.”
Mae dwy o’r ysgolorion, Lucy Boughton ac Esyllt Lewis yn dathlu ennill tair ysgoloriaeth wahanol- Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol, Ysgoloriaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaeth AAA Prifysgol Caerdydd.
Dywed Esyllt Lewis: “Mi wnes i wir fwynhau ymgeisio am Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol yn Ysgol y Gymraeg, gan ei fod yn fy ngalluogi i gyfuno fy hoff bethau - Cymraeg a chelf. Ysgrifennais ddarn creadigol a oedd yn trafod lliwiau natur a'i droi'n boster lliwgar wedi ei baentio gyda llaw. Mae'r ysgoloriaeth yn gyfle gwych i ddarpar-fyfyrwyr hogi eu sgiliau creadigol, a meddwl yn greadigol am y Gymraeg fel pwnc. Mi fuaswn i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynegi eu hunain yn greadigol i ymgeisio am yr ysgoloriaeth.”
Lansiwyd yr Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol er mwyn cynyddu’r nawdd ariannol a gynigir gan yr Ysgol. Gofynnir i ymgeiswyr lunio cais sydd yn arddangos eu creadigrwydd, yn cyfleu eu personoliaeth ac yn mynegi eu syniadau mewn dull gwreiddiol.
Nid oes ffurflen gais i’w llenwi fel y cyfryw, ond disgwylir i’r ymgeiswyr ymateb i’r tri chwestiwn canlynol yn eu cais:
- Pam yr ydych chi am astudio'r Gymraeg yng Nghaerdydd?
- Beth sy'n eich gwneud chi'n ymgeisydd arbennig?
- Pam y dylai Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd eich derbyn chi?
Mae pum Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol ar gael ar gyfer darpar fyfyrwyr israddedig unwaith eto eleni ar gyfer mynediad i’r Brifysgol yn 2016. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Chwefror 2016. Cysylltwch â Cadi Thomas am ragor o wybodaeth.