Y Gymraes a’i llên
12 Tachwedd 2015
Cynhelir cynhadledd arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar sefyllfa’r Gymraes a’i llên yn y Gymru gyfoes Ddydd Sadwrn, Ionawr 30 2016.
Mae’r gynhadledd, sydd wedi’i threfnu ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn gyfle i ystyried dylanwad ffeministiaeth ar lenorion a beirniadaeth lenyddol yn y Gymraeg. Yn ogystal â’r trafodaethau academaidd cawn ystyried sefyllfa’r Gymraes a’i llên heddiw yng nghwmni’r awduron Manon Steffan Ros a Caryl Lewis.
Trefnir y gynhadledd gan Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a Dr Cathryn Charnell-White o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth i gofio 30 mlynedd ers cyhoeddi rhifyn arbennig o gylchgrawn Y Traethodydd ym mis Ionawr 1986. Dyma rifyn a oedd yn archwilio’r berthynas rhwng ‘Merched a Llenyddiaeth’ er mwyn herio tawedogrwydd beirniadaeth lenyddol draddodiadol ynghylch cyfraniad menywod i lenyddiaeth Gymraeg dros y canrifoedd ar.
Dywed Dr Siwan Rosser: “Rhifyn 1986 o’r Traethodydd yw cyhoeddiad pwysicaf beirniadaeth lenyddol ffeministaidd yng Nghymru. Agorodd gil y drws ar faes ymchwil allweddol i’r Gymraeg ac ysbrydolodd genhedlaeth newydd i archwilio llên menywod hanesyddol a chyfoes
“Mae’r gynhadledd yn gyfle i ddathlu'r cyhoeddiad gwreiddiol ac i ymgynnull er mwyn myfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd wedyn. Cawn asesu'r sefyllfa gyfoes a’r newidiadau a brofwyd yn ystod y degawdau diwethaf. Mae gennym ni raglen lawn o bapurau amrywiol gan siaradwyr profiadol a brwdfrydig sydd yn siŵr o gynnig nifer o safbwyntiau a heriau newydd.”
Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim, a darperir lluniaeth ysgafn. Bydd modd i’r gynhadledd gyfrannu at gostau teithio myfyrwyr ymchwil. Noddir y gynhadledd hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
I gofrestru yn rhad ac am ddim cysylltwch â Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, Campws Pen-glais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DY erbyn 14 Rhagfyr, 2015 neu 01970 622137. Cofiwch nodi os ydych yn fyfyriwr ymchwil ac yn dymuno gwneud cais am gostau teithio.
Am ragor o fanylion cysylltwch â’r trefnwyr Siwan Rosser, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd neu Cathryn Charnell-White, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth.