Prinder dŵr
3 Mai 2019
Adnodd mwyaf gwerthfawr Cymru, dŵr croyw, oedd testun Cyfres Sesiwn Hysbysu Dros Frecwast ddiweddaraf Ysgol Busnes Caerdydd ddydd Gwener, 3 Mai 2019.
Roedd y digwyddiad, dan gadeiryddiaeth yr Athro Max Munday, Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn ystyried pwysigrwydd ecosystemau dŵr croyw iach i economi a busnesau Cymru.
Dechreuodd yr Athro Munday y sesiwn drwy gyflwyno pob un o gyfranwyr y bore o Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd a sut y byddai pob un yn dod â safbwynt ymchwil gwahanol ar ddiogelwch dŵr.
Camau i’w Cymryd
Y siaradwr cyntaf oedd yr Athro Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd, a holodd a oedd prinder dŵr yn ffaith neu ffuglen.
Gan rannu rhagfynegiadau gan y Swyddfa Dywydd a darlun arbennig o ddiddorol gan Giulio Frigieri, dangosodd yr Athro Durance bod sylwedd i'r ormodiaith sydd wedi llenwi penawdau am yn agos i ddegawd. Ac, er gwaethaf gwahaniaethau o ran dehongli, dadl yr Athro Durance oedd bod camau clir i'w cymryd i fynd i'r afael â diogelwch dŵr a newid yn yr hinsawdd.
Gyda pharatoadau'r bore yn cael eu cynnal yn yr Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus, roedd yn briodol i'r Athro Durance droi at fygythiadau, cyfleoedd a datrysiadau'r heriau mawr o ran prinder dŵr.
Esboniodd sut mae cyflenwad a galw yn hanfodol i gydbwyso'r sieciau sy'n cael eu newid gan y sectorau amaethyddol, diwydiannol a defnydd domestig. Er mwyn gwneud hyn, dadleuodd yr Athro Durance bod angen dulliau arloesol ar gyfer cynyddu'r cyflenwad gyda storio naturiol a lled-naturiol.
Gorffennodd ei chyflwyniad gyda neges gadarnhaol bod Sefydliad Catalysis Caerdydd mewn sefyllfa unigryw ar gyfer arloesi ar draws y sector gydag ailddefnyddio dŵr.
Gweithio mewn partneriaeth
Dilynodd David Crole, Rheolwr Partneriaeth yn Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd, gyflwyniad yr Athro Durance drwy esbonio pam fod dŵr yn bwysig i fusnes.
Gan gyfeirio unwaith eto at ethos gwerth cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd, amlygodd David gyfleoedd ar gyfer gwaith partneriaeth lle mae modd cyflawni canlyniadau ar y cyd er budd yr economi, cymdeithas a'r amgylchedd.
Esboniodd mai rhan o genhadaeth y Sefydliad yw meithrin perthnasoedd fel hyn, lle y gall ymchwilwyr o wahanol feysydd lunio a chyflwyno ymchwil ar y cyd â rhanddeiliaid a defnyddwyr i sicrhau dealltwriaeth ac atebion a fydd yn helpu pawb i fynd i’r afael â heriau dŵr byd-eang.
Parhaodd Julia Terlet lle gorffennodd David, drwy ddweud wrth ein cymuned fusnes am gyfleoedd i ddiwydiant weithio gyda chymuned ymchwil gyrfa gynnar y Sefydliad Ymchwil Dŵr.
Julia, sydd wedi ennill ei PhD yn ddiweddar, yw Swyddog Marchnata a Chyfathrebu'r Sefydliad, ac mae'n gweithio ar hyrwyddo'r ymchwil a gynhelir gan ein hymchwilwyr cyswllt.
Rhoddodd adroddiad personol ar ei hymchwil doethurol a sut y ffurfiodd rhan o brosiect ehangach WISDOM mewn cydweithrediad â Dŵr Cymru.
Nod y prosiect oedd integreiddio technolegau a gwasanaethau arloesol i wella effeithlonrwydd yn y sector dŵr ac ennyn newidiadau yn ymddygiad defnyddwyr.
Daeth Tony Harrington, Cyfarwyddwr Amgylchedd Dŵr Cymru â chyflwyniadau'r bore i ben gyda chrynodeb byr a rhai casgliadau. Y pennaf o'r rhain oedd cymhariaeth rhwng prisiau dŵr ar draws yr UE a sut y gallai'r rhain gynrychioli agweddau gwahanol at brinder dŵr.
Gorffennwyd y sesiwn gyda chwestiynau i'r panel ar brofiad defnyddwyr a chwsmeriaid, prisio, arloesi, newid yn yr hinsawdd a buddsoddi, gyda'r Athro Munday yn diolch i bawb a gyfrannodd yn y trafodaethau ar bwnc cyfoes mor bwysig.
Rhwydwaith yw'r gyfres Sesiynau Hysbysu Brecwast Addysg Weithredol sy'n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol.
Os nad oeddech yn gallu dod, edrychwch ar ein ffrwd fyw o’r digwyddiad.
Cynhelir y sesiwn nesaf, Adeiladu Clwstwr Creadigol, ddydd Iau 6 Mehefin 2019 gyda Sara Pepper, yr Athro Ruth McElroy a Jarred Evans yn rhannu nodau prosiect sydd newydd ei gyllido â'r nod o roi arloesi yng nghanol cynhyrchu cyfryngol yn ne Cymru, gan symud sector sgrin llewyrchus Caerdydd o gryfder i arweinyddiaeth.