Ymchwil arloesol i ôl-osodiad adeiladau hanesyddol i’w chyflwyno i fyfyrwyr ôl-raddedig
19 Medi 2019
Mae’r gwaith o adeiladu cell brofi i fonitro paneli llenwi newydd ar gyfer adeiladau ffrâm bren hanesyddol bron â gorffen.
Nod y prosiect ymchwil, dan arweiniad Dr Chris Whitman o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yw lleihau allyriadau carbon mewn adeiladau hanesyddol, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod cyfyngiad ar effaith negyddol unrhyw weithredoedd ôl-osod ar ddeunydd ac arwyddocâd diwylliannol yr adeilad. Rhaid rheoli newidiadau i’r adeiladau hyn drwy ddefnyddio egwyddorion cadwraeth sydd wedi ennill eu plwyf ac mae’n hollbwysig gwneud yn siŵr nad yw’r ôl-osodiad hwn yn creu amodau a allai fygwth parhad y deunydd hanesyddol o’i amgylch.
Caiff ymddygiad thermol a lleithder pedwar deunydd llenwi gwahanol posibl ei fonitro dros o leiaf ddwy flynedd, gan wahanu hinsawdd Caerdydd oddi wrth amgylchedd mewnol a reolir. Nod yr ymchwil yw rhoi arweiniad ar fanylion priodol ar gyfer ôl-osod ynni pob adeilad ffrâm bren hanesyddol.
Ariennir y prosiect gan Historic England, a chafodd ei alluogi gan Tŷ Mawr Lime Ltd, Royston Davies Conservation Builders a Hempcrete UK. Mae’r safle brofi drws nesaf i gartref MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy Ysgol Pensaernïaeth Cymru, a chaiff yr ymchwil ei chyflwyno i fyfyrwyr mewn darlithoedd yn ystod y cwrs.
Mae’r MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy yn rhaglen sydd wedi’i chymeradwyo gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a’i hachredu gan y Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol (IHBC). Mae’n rhoi pwyslais ar rôl cynaliadwyedd o fewn y cyd-destun hanesyddol, ar lefelau technegol a strategol. Mae’r rhaglen wedi’i dylunio ar gyfer graddedigion sydd eisiau dilyn gyrfa yn y maes.
Dywedodd Dr Whitman:
“Mae’r cyllid gan Historic England yn gyfle gwych i barhau â’r ymchwil i’r maes a ddechreuais tra’n astudio PhD. Rydw i’n edrych ymlaen at gyflwyno’r ymchwil yn fy narlithoedd ar Ddefnyddio Ynni mewn Adeiladau Hanesyddol ar y cwrs MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy”.
Am ragor o wybodaeth, gellir gweld y papur ymchwil llawn o ymchwil gysylltiedig flaenorol yma