Yr Ysgol Fferylliaeth yn cyflwyno Gwyddoniaeth Meddyginiaethau i’r 2019 Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst
16 Medi 2019
Aeth staff a myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yr Ysgol Fferylliaeth i ogledd Cymru ym mis Awst 2019, er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Gyda thros gan mil o ymwelwyr bob blwyddyn, ystyrir yr ŵyl flynyddol o ddiwylliant Cymraeg yn gyfle gwych i drafod yr ymchwil a gynhelir yn yr Ysgol, gyda phwyslais ar thema ymgysylltu Gwyddoniaeth Meddyginiaethau.
Yr Athro Arwyn Jones (Ysgol Fferylliaeth) wnaeth gydlynu gweithgareddau gwyddonol y flwyddyn hon. Mae e’n ymwneud â’r Eisteddfod Genedlaethol yn y rôl hon ers dros ddegawd, ac eleni, yn ei dref enedigol, fe gyflwynodd y Ddarlith Gwyddoniaeth uchel ei bri yn yr Eisteddfod. Siaradodd am ei yrfa ym maes gwyddoniaeth o dan y teitl “Siwrne faith i ganol y gell: o gynffon penbwl i galon canser.”
Bu’r arddangosfa Gwrthgyrff Ffantastig a ariannwyd gan CALIN yn cynnwys dafad o faint go iawn o’r enw Darwen, a gweithgaredd fu’n pwysleisio sut mae bioleg yn gwbl ddibynnol ar foleciwlau’n clymu â’i gilydd ac yn ffitio’n berffaith i mewn i’w gilydd. Dyluniwyd y gweithgareddau hyn i esbonio ac arddangos sut mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Fferylliaeth yn defnyddio DNA defaid a firws sy’n heintio bacteria i ddatblygu technolegau ar gyfer gweithgynhyrchu diagnosteg a therapïau newydd ar ffurf Gwrthgyrff.
Ar ben hynny, bu’r grwpiau hyn gerllaw; Pharmabees yn trafod priodweddau gwrthficrobaidd mêl; CITER yn arddangos polymerau sy’n iacháu briwiau, a’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yn sôn am chwilio am gyffuriau newydd.
Ynghylch yr wythnos, meddai’r Athro Jones, “Er gwaetha’r tywydd garw, roedd yn wythnos wych o ymgysylltu ynghylch gwyddoniaeth, a braint fu cyflwyno’r ddarlith yn fy nhref enedigol. Diolch i bawb a helpodd i drefnu ac ymgysylltu ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth Prifysgol Caerdydd.”