Beth mae newyddiadurwyr yn ei wneud i fynd i’r afael â thwyllwybodaeth?
16 Medi 2019
Bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio pa mor effeithiol mae canolfannau darlledu’n mynd i’r afael â lledaeniad newyddion ffug a thwyllwybodaeth.
Dan arweiniad yr Athro Stephen Cushion a Dr Maria Kyriakidou yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, bydd y prosiect dwy flynedd yn ymchwilio i waith cynhyrchu ac allbynnu newyddiaduraeth sy'n cynnwys twyllwybodaeth.
Ar y cyd â chwmnïau cyhoeddus mwyaf blaenllaw y cyfryngau (BBC, ITV, Channel 4 a Channel 5) a sefydliad newyddion masnachol (Sky News), yr astudiaeth gymharol fanylaf o’i math yn y DU fydd y prosiect hwn.
Meddai Dr Kyriakidou: “O ymyrraeth wladol ag ymgyrchoedd etholiadol gwledydd eraill, i ddylanwad cynyddol ymgeiswyr, pleidiau a mudiadau gwleidyddol, mae seilwaith ac amgylchedd y cyfryngau a chyfathrebiaeth heddiw wedi agor ffyrdd newydd o drin ffrydiau o wybodaeth, a tharfu arnynt.
“O ganlyniad, mae termau fel ‘gwleidyddiaeth ôl-wirionedd’ neu ‘newyddion ffug’ wedi dod yn gyfystyr â’r amgylchedd gwleidyddol cyfnewidiol, y cyflenwad cynyddol o dwyllwybodaeth amheus a’r argyfwng ar gyfer hygrededd newyddiaduraeth gyfoes.”
Drwy ymgysylltu â newyddiadurwyr, rheoleiddwyr y cyfryngau, llunwyr polisïau a chynulleidfaoedd, bydd y prosiect yn canfod ffyrdd y gall platfformau ar-lein, teledu, radio a’r cyfryngau cymdeithasol fynd i’r afael â thwyllwybodaeth a chyfathrebu eu gohebiaeth yn fwy effeithiol.
Ychwanegodd yr Athro Cushion: “Mae cynnydd y dwyllwybodaeth ynghylch gwleidyddiaeth a materion cyhoeddus yn cynrychioli bygythiad dirfodol i lywodraethiant democratig sawl gwlad. Mae’r cyfryngau’n chwarae rôl ganolog o ran mynd i’r afael â honiadau a gwrth-honiadau, ond gan fod ymddiriedaeth yn y prif ffynonellau newyddion wedi lleihau, mae hygrededd newyddiaduraeth wedi’i danseilio.
Cefnogir y prosiect, ‘Mynd i’r afael â thwyllwybodaeth: gwella hygrededd newyddiadurol yn y cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus’, gan grant ymchwil o £579,183 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Bydd ei ganfyddiadau, fydd yn cynnwys papurau cynhadledd, erthyglau, cyflwyniadau a llyfr, yn cael eu hyrwyddo’n eang ar draws rhwydweithiau’r Brifysgol, y cyfryngau i randdeiliaid perthnasol fel newyddiadurwyr, rheoleiddwyr, gwleidyddion, llunwyr polisïau a dinasyddion drwy gyfres o gyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus a phreifat yn ystod 2021.