Conservation students receive prestigious awards
12 Medi 2019
Dyfarnu ysgoloriaethau Ymddiriedolaeth Anna Plowden i ôl-raddedigion
Bydd pedwar myfyriwr MSc Arferion Cadwraeth yn derbyn gwobrau cenedlaethol ar gyfer eu hastudiaethau yn ystod 2019-2020.
Y myfyrwyr sy’n hawlio Ysgoloriaethau Anna Plowden yw Ella Berry, Eleanor Evans, Katherine List a Joshua Seymour, gyda phob un yn gwneud y radd ôl-raddedig dwy flynedd. Mae’r wobr yn mynd tuag at ffioedd dysgu ar gyfer 2019/2020.
Dywedodd yr Athro Cadwraeth Jane Henderson:
Rydw i wrth fy modd fod Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Anna Plowden wedi gallu cefnogi ein myfyrwyr eto eleni. Gall y grantiau hyn fod yn drawsnewidiol ar gyfer myfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn gallu cymryd eu lle neu barhau i’r flwyddyn olaf. Mae’r Ysgoloriaethau yn aml yn eu rhyddhau i ategu at eu hastudiaethau drwy fod yn wirfoddolwyr cadwraeth mewn archifau amgueddfeydd lleol a thai hanesyddol. Mae’r profiad gwaith ychwanegol yn helpu’r myfyrwyr i ddeall sut y gellir cymhwyso eu sgiliau, ac yn rhoi’r cyfleoedd iddynt ddatblygu sgiliau newydd ac adeiladu rhwydweithiau er mwyn datblygu eu gyrfa a’u cyflogaeth yn y dyfodol.”
Cynlluniwyd yr MSc Arferion Cadwraeth fel rhaglen drosi ar gyfer graddedigion yn y dyniaethau a’r gwyddorau sy’n dymuno cael gyrfa mewn Cadwraeth, ac mae’n un o gyfres o raddau sy’n ymroi i addysgu’r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr o lefel israddedig i ôl-raddedig yn y brifysgol.
Wedi’i sefydlu yn 1998 er cof am y cadwraethwr arloesol, mae Ymddiriedolaeth Anna Plowden yn cefnogi datblygu sgiliau ym maes cadwraeth ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r ddisgyblaeth.
Professor of Conservation Jane Henderson said:
“I am truly delighted that the Trustees of the Anna Plowden Trust have been able to support our students again this year. These grants can be transformative for students, ensuring they can take up their place or continue into the final year. The Scholarships frequently free them to complement their study with conservation volunteering in local museums archives and historic houses. This additional work-based experience helps the students to understand how their skills can be applied and gives them opportunities to develop new skills and build networks for employment and career development in the future.”
Designed as a conversion programme for humanities and science graduates seeking a career in Conservation, the MSc Conservation Practice is one of a range of degrees dedicated to teaching the next generation of conservators from undergraduate to postgraduate level at the university.
Established in 1998 in memory of the pioneering conservator, The Anna Plowden Trust supports the development of skills in conservation and helps to raise awareness of the discipline.