Gwydnwch dŵr trefol fydd pwnc prosiect ymchwil mawr
20 Medi 2019
Bydd academydd o Brifysgol Caerdydd yn ymchwilio i’r her fyd-eang o sut mae dinasoedd yn ymdopi â heriau dŵr.
Mae Dr Adrian Healy wedi’i ddewis ar gyfer Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Gyda chefnogaeth cronfa ymchwil £900 miliwn, mae’r cymrodoriaethau hyn yn cynnig yr hyblygrwydd a’r amser sydd eu hangen ar ymchwilwyr o gefndiroedd a llwybrau gyrfa amrywiol, i wneud cynnydd ar rai o faterion pwysicaf cymdeithas.
Gwnaeth yr Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter, sylw: “Rydw i wrth fy modd bod Dr Healy wedi cael y Gymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol. Mae dŵr yn hanfodol i bob math o fodau, ac mae gwneud yn siŵr bod mynediad at ddŵr diogel a glân wrth i ddinasoedd newid a thyfu’n her bwysig i gymdeithas.
“Bydd cymrodoriaeth Dr Healy’n cefnogi rhaglen ymchwil hirdymor uchelgeisiol i fynd i’r afael â phrinderau dŵr ar draws y byd, gan weithio gyda phartneriaid rhyngwladol. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo’n gryf i ymchwil iechyd fyd-eang, yn ogystal â magu arweinwyr ymchwil arloesol y dyfodol.”
Ac yntau’n un o 78 o gymrodyr a ddewiswyd ar gyfer y rownd hon, bydd Dr Healy’n canolbwyntio ar bedair dinas yn Affrica Is-Sahara – Cape Town, Dar es Salaam, Lagos ac Windhoek – sydd wedi profi prinderau dŵr i gyd, ynghyd â thwf demograffig ac economaidd. Bydd ymchwil arhydol fanwl yn archwilio sut gall diffyg mynediad unigolyn at gyflenwadau dibynadwy o ddŵr cyhoeddus effeithio ar y dewisiadau y maent yn eu gwneud, yn ogystal â gwydnwch hirdymor y cyflenwadau sydd ar gael.
Yn Lagos, y ddinas fwyaf yn Affrica Is-Sahara, adroddir bod gan lai nag 20% o’r boblogaeth fynediad at gyflenwadau o ddŵr cyhoeddus sydd wedi’i bibellu. Y llynedd, daeth Cape Town i sylw cyfryngau’r byd, oherwydd i gyfnod parhaus o sychder ei gwneud, yn ôl adroddiadau, y ddinas fawr gyntaf i bron â disbyddu ei dŵr.
Dywedodd Dr Healy, o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: “Mae’r ymchwil hon yn dod ar adeg bwysig, wrth i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau fynd i’r afael â sut i ddatrys y broblem o brinderau dŵr ar draws y byd. Wrth i lywodraethau fynd i’r afael â darparu cyflenwadau diogel, digonol a dibynadwy o ddŵr i gartrefi a chwmnïau, mae unigolion mewn dinasoedd sy’n brin o ddŵr yn troi at ddulliau amgen er mwyn sicrhau eu goroesiad.
Mae’r gymrodoriaeth yn adeiladu ar ymchwil ddiweddar a arweiniwyd gan Dr Healy yn Nigeria, Namibia a De Affrica. Wrth sôn am y wobr, meddai’r Athro Nora de Leeuw, Rhag Is-ganghellor, Rhyngwladol ac Ewrop: “Mae Prifysgol Caerdydd yn iawn i fod yn falch o’r ymchwil y mae Dr Healy yn ymgymryd â hi. Mae’n adeiladu ar brosiect graddfa-fach a gefnogodd y Brifysgol drwy gronfeydd mewnol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac sy’n dangos egni ein cyd-fentrau byd-eang.”
Bydd Dr Healy yn cydweithio â chydweithwyr o Brifysgolion Cape Town, Dar Es Salaam, Ibadan a Namibia, yn ogystal ag Arolwg Daearegol Prydain. Mae sefydliadau lleol a chyrff a chwmnïau rhyngwladol fel UN-Habitat, WaterAid, Arup, Sefydliad Skat a Sefydliad Dŵr Rhyngwladol Stockholm hefyd yn cynnig mewnbwn.
Meddai: “Er bod yr ymchwil hon yn canolbwyntio ar ddinasoedd yn Affrica, mae ganddi oblygiadau llawer ehangach ac yn dod ar adeg pan mae arweinwyr y byd yn trafod pryderon difrifol ynghylch twf poblogaethau a’r newid yn yr hinsawdd. Mae cwmpas y prosiect hwn yn rhoi cyfle gwych i ni ddatblygu rhaglen o ymchwil uchelgeisiol sy’n gallu cynnig atebion go iawn o ran adeiladu gwydnwch dŵr ar gyfer poblogaeth y byd.”
Bydd Dr Healy’n gweithio’n agos gyda Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd, canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n mynd i’r afael â’r her fawr o reoli dŵr yn gynaliadwy dros bobl ac ecosystemau mewn byd sy'n newid. Meddai’r Cyfarwyddwr, yr Athro Isabelle Durand: “Mae gwaith Dr Healy’n dod â hydroddaearegwyr, seicolegwyr, daearegwyr a gwyddonwyr cymdeithasol ynghyd. Mae’n enghraifft wych o werth defnyddio persbectif rhyngddisgyblaethol i fynd i’r afael â heriau i gyflenwadau gwydn o ddŵr trefol, yn y DU a thu hwnt.”
Bydd y prosiect, Water stressed cities: Individual choice, access to water and pathways to resilience in sub-Saharan Africa, yn dechrau ym mis Ionawr.