Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil i fesur y defnydd o dechnolegau digidol ymhlith busnesau yng Nghymru

12 Medi 2019

Digital maturity

Mae busnesau’n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect gan Brifysgol Caerdydd sy’n mesur effaith technolegau digidol yng Nghymru.

Mae Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Cymru 2019, y pedwerydd arolwg blynyddol yn y wlad, yn asesu sut mae band eang yn effeithio ar berfformiad busnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru.

Mae'r arolwg yn mesur i ba raddau mae BBaChau yng Nghymru yn defnyddio dulliau fel cyfrifiadura cwmwl, offer e-fasnach, a fideo-gynadledda.

Drwy gwblhau'r arolwg, bydd BBaChau yn helpu'r tîm o Ysgol Busnes Caerdydd i greu darlun o'r economi ddigidol sy'n datblygu.

Am roi o’u hamser, bydd BBaChau yn cael sgôr aeddfedrwydd digidol a gwybodaeth am sut maen nhw'n cymharu ag eraill yng Nghymru.

Dywedodd Dr Dylan Henderson, Uwch-gymrawd Ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd: "Mae busnesau yng Nghymru yn wynebu cyfnod heriol ond y rheini sydd ar i fyny yn aml yw'r rhai sy'n defnyddio offer digidol i wella eu heffeithlonrwydd a'u cyrraedd. Dangosodd tystiolaeth o Arolwg Aeddfedrwydd Digidol y llynedd mai £166.8m oedd cyfanswm y gwerthiannau ychwanegol y gellir eu priodoli i BBaChau o ganlyniad i ddefnyddio band eang, ac roedd £91.5m ohono yn gysylltiedig â defnyddio band eang cyflym iawn.

"Bydd ein hymchwil barhaus yn cynnig rhagor o ddealltwriaeth ynghylch sut mae technolegau newydd yn sbarduno busnesau i arloesi ac ehangu."

Mae’r data a gynhyrchir yn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru hefyd ac yn cefnogi twf BBaChau a’r economi ddigidol yng Nghymru.

Caiff yr astudiaeth ei chynnal gan Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd, a chaiff ei hariannu ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Cwblhewch yr arolwg nawr.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.