Ennill gwobr yn ORAHS 2019
3 Awst 2019
Cynhaliwyd 45fed cynhadledd ryngwladol Gweithgor Ewrop ar Ymchwil Weithrediadol a Gymhwysir i Wasanaethau Iechyd (ORAHS) yn Karlsruhe, yr Almaen rhwng 28 Gorffennaf a 2 Awst 2019. Thema sylfaenol cynhadledd ORAHS eleni oedd 'Dadansoddeg Gofal Iechyd - Deallusrwydd Artiffisial a'r Profiad Dynol.'
Roedd cynrychiolaeth dda o Brifysgol Caerdydd yn ORAHS. Yn y llun uchod o'r chwith i'r dde: Emma Aspland (Prifysgol Caerdydd), Ines Arnolds (KIT), Dr Daniel Gartner (Prifysgol Caerdydd), John Threlfall (Prifysgol Caerdydd) ac Emily Williams (Prifysgol Caerdydd) oedd yno i gyflwyno ymchwil o'r Ysgol Mathemateg.
Derbyniodd y myfyriwr ymchwil, Emily Williams, Wobr yr Athro Steve Gallivan am y Cyflwyniad Gorau gan Ymchwilydd Gweithredol Gyrfa Gynnar. Cyflwynodd Emily ei hymchwil ar y cyd â Gwasanaeth Gwaed Cymru mewn sgwrs a'r teitl ‘Scheduling Blood Donation Clinics to Match Supply and Demand’. Mae hyn yn cynnwys datblygu offeryn cymorth penderfynu sy'n amserlennu clinigau, gweithlu ac apwyntiadau rhoddwyr gwaed yn y ffordd orau, fel bod y cyflenwad o waed yn cyd-fynd â'r galw ar draws ysbytai Cymru.
Cyflwynodd Dr Daniel Gartner, Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Mathemateg, boster yn manylu ar ei ymchwil ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB) o'r enw ‘The big difference of small weight losses: Creating digital solutions for patients with obesity’. Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu offeryn ysgogiadol i leihau'r risg o ddiabetes yn gysylltiedig â gordewdra gan ddefnyddio Efelychiad Monte Carlo i ragweld cynnydd rhyng-amserol risg diabetes oherwydd gordewdra.
Cyflwynodd y myfyriwr ymchwil John Threlfall boster hefyd â'r teitl ‘Benchmarking construction and improvement heuristic algorithms for classification problems in healthcare’. Mae'r ymchwil hwn hefyd mewn cydweithrediad ag ABUHB ac yn cynnwys gweithredu a gwerthuso ymagwedd seiliedig ar Java sy'n cyfuno hewristig llunio gyda hewristig gwella'n seiliedig ar chwilio gwasgaru, i ddysgu dosbarthydd seiliedig ar Flanced Markov graffigol o set data.
Rhoddodd Emma Aspland gyflwyniad ar ‘Modelling Lung Cancer Clinical Pathways’ oedd yn manylu ei hymchwil mewn cydweithrediad â Chanolfan Canser Felindre. Roedd Emma'n trafod creu offeryn cefnogi penderfynu sy'n hwyluso rhyngweithio arbenigol gyda chloddio data drwy gymhwyso clystyru. Mae canlyniadau'r broses yn bwydo i efelychiad o ddigwyddiad ar wahân i fodelu llif cleifion drwy'r llwybrau clinigol a gofnodir.
Ar ôl ennill gwobr yn y digwyddiad ychwanegodd Emily "Roedd ORAH 2019 yn ddifyr dros ben gyda chyfle rhagorol i ffurfio cysylltiadau gydag ymchwilwyr eraill yn gweithio ar brosiectau cysylltiedig. Yn goron ar y gynhadledd, rwy'n ei theimlo'n anrhydedd enfawr i dderbyn Gwobr yr Athro Steve Gallivan am 'y cyflwyniad gorau gan ymchwilydd gweithredol gyrfa gynnar'; rwy'n hynod o ddiolchgar i'r beirniaid am eu hystyriaeth."
Caiff y prosiectau ymchwil PhD uchod i gyd eu cyllido gan KESS 2 a'u goruchwylio gan yr Athro Paul Harper a Dr Daniel Gartner.