Y banteng: Mamol Sabah sydd fwyaf mewn perygl
10 Medi 2019
Mae banteng Borneo, un o’r mamaliaid sydd fwyaf mewn perygl yn Sabah, yn prinhau i ddwyseddau isel iawn, gyda llai na 500 ar ôl yn y gwyllt. Dyna beth mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd a Chanolfan Maes Danau Girang yn ei awgrymu.
Drwy ddefnyddio marciau naturiol, fel creithiau, i adnabod bantengiaid unigol, mae ymchwilwyr yn Borneo wedi llwyddo i fagu cyfres o gipluniau o sawl unigolyn dros gyfnod parhaus. Yn ei dro, mae hyn wedi eu galluogi i amcangyfrif dwysedd poblogaeth y rhywogaeth brin hon o wartheg gwyllt ar draws dwy ardal o goedwig.
“Dyma’r tro cyntaf bod ymchwilwyr wedi cael meintiau digonol o ddata am y rhywogaeth enciliol iawn hon,” esboniodd Dr Penny Gardner, ymchwilydd yng Nghanolfan Maes Danau Girang.
“Mae gyrroedd yn cael eu rhannu’n gyrroedd llai o ganlyniad i ddatgoedwigo, isadeiledd a gweithgarwch dynol, ac mae hyn yn rhwystro eu gallu i symud a chynnal ymddygiad sy’n hanfodol i’w goroesiad.”
Ynghyd â cholli cynefin, pennodd ymchwilwyr fod potsio’n ffactor allweddol o ran lleihau niferoedd o bantengiaid.
“Mae potsio’n rhemp ym mhob cynefin sy’n cynnwys bantengiaid, ac mae sawl banteng yn cael eu saethu bob blwyddyn mewn coedwigoedd a warchodir” meddai Dr Benoit Goossens, Athro ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang.
“Mae brys bellach i atal potsio er mwyn osgoi colli’r rhywogaeth hon,” dywedodd Dr Goossens. “Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn gweithio i gael grant i gynyddu capasiti Uned Warchod Adran Coedwigaeth Sabah yn erbyn potswyr, a gobeithio bydd hyn yn eu hatal ac yn rhoi hwb gwych i gadwraeth bywyd gwyllt yn Sabah.”
Cyhoeddwyd y papur Using natural marks in spatially explicit capture-recapture framework to estimate preliminary population density of cryptic endangered wild cattle in Borneoyn Global Ecology and Conservation.