Y Brifysgol i arddangos rôl y gwyddorau cymdeithasol yn y gymdeithas
9 Tachwedd 2015
Rhaglen o
ddigwyddiadau i ddathlu Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y DU gyfan
Yr wythnos hon (7-14 Tachwedd), bydd y Brifysgol yn cynnal rhaglen o
ddigwyddiadau sy'n ceisio dangos a dathlu rôl y
gwyddorau cymdeithasol yn ein bywydau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol.
Fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a gynhelir ledled y DU, bydd y digwyddiadau'n dangos sut mae'r gwyddorau cymdeithasol yn dylanwadu ar yr ymatebion i rai o heriau mwyaf dybryd y byd modern.
Bydd sefydliadau academaidd ledled y DU yn defnyddio'r ŵyl wythnos o hyd i arddangos eu gwaith ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol.
Yng Nghaerdydd, mae'r ŵyl yn rhan o berthynas hirsefydlog ers hanner canrif rhwng y Brifysgol a'r Cyngor. Mae wedi paratoi'r ffordd ar gyfer ymchwil arloesol a gaiff ei hystyried wrth lunio polisïau yng Nghymru, y DU a thu hwnt.
Mae'r ŵyl yn gyfle pwysig i'r Brifysgol arddangos ei gwaith amlwg ym
maes y gwyddorau cymdeithasol ers blynyddoedd lawer. Mae hyn yn cynnwys sawl
canolfan ragoriaeth - gan gynnwys Sefydliad
Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), Canolfan
Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd
(DECIPHer), Sefydliad Polisïau Cyhoeddus Cymru (PPiW), a Chanolfan Hyfforddiant
Doethurol Cymru-gyfan ESRC.
Mae'r Brifysgol hefyd wrthi'n sefydlu Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd (SPARK). Bydd hyn yn
golygu buddsoddiad cyfalaf o bwys mewn cyfleusterau i gefnogi gwaith ymchwil
rhyngddisgyblaethol a arweinir gan y gwyddorau cymdeithasol, sy'n ceisio canfod
atebion
arloesol ac effeithiol i broblemau cymdeithasol o bwys. Bydd SPARK yn cynnig
gofod a chyfleusterau i gyd-leoli cydweithwyr ymchwil allanol ochr yn ochr ag
ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol a disgyblaethau eraill, i hyrwyddo syniadau
a gwaith ymchwil creadigol newydd.
Dyma rai o'r digwyddiadau sy'n rhan o raglen Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC:
- ‘Sea Change: Visions of climate change': arddangosfa ryngweithiol sy'n defnyddio delweddau a chyfweliadau i ddangos sut mae lefel y môr wedi newid yn Aber Hafren (28 Hydref - 20 Tachwedd)
- A world of data: sy'n ceisio dangos i fyfyrwyr ysgolion sut i gynhyrchu data ei ddadansoddi a'i ddelweddu mewn ffordd ystyrlon a defnyddiol (10 Tachwedd)
- WISERD Data Portal Demonstration: arddangosiad o sut gall sefydliadau'r trydydd sector ddefnyddio Porth Data WISERD ar gyfer ymchwil am Gymdeithas Sifil (11 Tachwedd)
- DECIPHer SciSCREEN: The Perks of Being a Wallflower - ffilm sy'n adrodd hanes bachgen 15 oed a'i anawsterau iechyd meddwl wrth iddo dyfu fyny (13 Tachwedd)
Dyma rai o'r digwyddiadau eraill a gynhelir yn ystod wythnos yr Ŵyl:
- Ymchwil CASCADE am Blant sy'n Derbyn Gofal ac Addysg – lansio ymchwil newydd am ddyheadau addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru (11 Tachwedd)
- Seminar Cymdeithas Sifil WISERD: Undebau sy'n ymgyrchu, Llywodraeth ddatganoledig: myfyrdodau am wladwriaeth, undebau a chymdeithas sifil (12 Tachwedd)
- Atal plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol: Gwersi a ddysgwyd o ymchwil a gwaith Stop it Now! Cymru (12,13 Tachwedd)
- Sesiwn adborth am ymchwil ynglŷn â chamau gweithredu cymunedol yn Butetown, Glan yr Afon a Grangetown (13 Tachwedd)
Dywedodd yr Athro Gill Bristow, Deon Ymchwil, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: 'Mae'r digwyddiadau sydd wedi'u trefnu yng Nghaerdydd ar gyfer Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC yn gyfle gwych i gael gwybod rhagor am waith ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol yng Nghaerdydd, a'r llu o ffyrdd pwysig y mae'r gwaith ymchwil hwn yn effeithio ar ein cymunedau a'n cymdeithas'.
Cliciwch yma i weld rhestr o'r digwyddiadau sy'n agored i'r cyhoedd, a manylion am sut i gadw lle.