Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Mike Bruford yn traddodi’r brif ddarlith yng nghynhadledd y Sefydliad Ecolegol Ewrop

20 Awst 2019

EEF logo

Cyflwynodd yr Athro Mike Bruford, cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy y prif anerchiad yng nghynhadledd Sefydliad Ecolegol Ewrop 2019 yn Lisbon, Portiwgal.

Cynhaliwyd 15fed Cyngres Sefydliad Ecolegol Ewrop (EEF) a’r 18fed cyfarfod SPECO Cenedlaethol yng Nghyfadran y Gwyddorau ym Mhrifysgol Lisbon rhwng 29 Gorffennaf a 2 Awst 2019.

Cyflwynodd yr Athro Bruford y brif ddarlith am ecoleg ddamcaniaethol ac esblygiadol.

Thema gyffredinol y gynhadledd oedd Ymgorffori Ecoleg mewn Nodau Datblygu Cynaliadwy. Bwriad hyn oedd hybu trafodaethau a rhyngweithiadau ar sut i integreiddio ymchwil ecolegol sylfaenol a chymhwysol, a’u heffeithiau trawsddisgyblaethol, er mwyn gweithredu Nodau Datblygu Cynaliadwy 2030 y Cenhedloedd Unedig yn effeithiol.

Croesawodd y gynhadledd bobl o amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys myfyrwyr, ymchwilwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â meysydd ecoleg a chadwraeth, esblygiad, geneteg, gwyddorau’r amgylchedd, newid yn yr hinsawdd, amaeth-goedwigaeth, ecoleg gymdeithasol, yr economi, rheolwyr, a disgyblaethau cysylltiedig.

Cewch ragor o wybodaeth am y rhaglen ar wefan y gynhadledd.

Rhannu’r stori hon