Addewid newydd dros gynaliadwyedd yn ganolog i Hanner Marathon Caerdydd
6 Medi 2019
Mae Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd wedi lansio Cynllun Gweithredu Gwyrdd i wneud yn siŵr bod cynaliadwyedd yn ganolog i'r ras.
Mae trefnwyr y digwyddiad, Run 4 Wales, ynghyd â'r partner teitl, Prifysgol Caerdydd, wedi ymrwymo i sicrhau cyn lleied o effaith amgylcheddol â phosibl o ganlyniad i ddigwyddiad torfol mwyaf Cymru, drwy roi’r cynllun gwyrdd uchelgeisiol hwn ar waith.
Drwy ddefnyddio ymchwil gan Brifysgol Caerdydd y cyfeiriwyd ato yn eu hastudiaeth ‘Ras dros Gynaliadwyedd’, y nod yw helpu i lywio ymddygiad y 27,500 o gyfranogwyr, cwtogi’r defnydd o blastig, lleihau gwastraff, osgoi deunyddiau anghynaladwy ac annog mwy o ddewisiadau o ran dulliau teithio cynaliadwy. Gwelodd ras y llynedd leihad o 49% mewn allyriadau CO2e oherwydd teithio a chyfradd ailgylchu o 96%.
Ond bydd y Cynllun Gweithredu Gwyrdd newydd yn cael ei roi ar waith er mwyn adeiladu ar y camau cadarnhaol a gymerwyd yn barod. Dyma’r prif feysydd ffocws:
- Ystyried ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol o ran dewis cyflenwyr a darparwyr gwasanaethau.
- Annog teithio cynaliadwy, cludiant cyhoeddus a rhannu ceir er mwyn lleihau ôl troed carbon y digwyddiad cyn belled ag y bo modd.
- Cyflogi tîm pwrpasol i ddidoli’r deunyddiau i’w hailgylchu yn y lle cyntaf, gyda’r nod o gyrraedd cyfradd ailgylchu o 100%.
- Osgoi deunyddiau PVC niweidiol ar gyfer brandio ac arwyddion, a dewis deunyddiau wedi’u hailgylchu yn lle hynny.
- Gweithio gydag Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd ar brosiect ymchwil newydd ac arloesol, gyda’r nod o greu digwyddiadau mwy cynaliadwy.
- Defnyddio bagiau o startsh ŷd 100% bioddiraddadwy ar gyfer y pecynnau gwobrau.
- Annog partneriaid a samplwyr sy’n dosbarthu eitemau i’r gorffenwyr i ystyried y deunyddiau a ddefnyddir yn eu cynhyrchion a’u pecynnau.
- Argraffu deunyddiau hysbysebu ar bapur wedi’i ailgylchu.
- Newid i fedalau o sinc wedi’i ailgylchu, gan leihau'r CO2 o’r broses buro.
- Gosod mannau gwaredu gwastraff bob milltir ar hyd y llwybr.
- Gweithio gyda Size of Wales i gynnig y cyfle i redwyr wrthbwyso eu hôl troed carbon wrth gofrestru.
Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Mae Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd wedi tyfu i fod y digwyddiad torfol mwyaf yng Nghymru. Eleni, byddwn yn darparu ar gyfer 27,500 o redwyr o ledled y DU a thu hwnt a bydd miloedd mwy o wylwyr yn heidio i’r ddinas i gynnig eu cefnogaeth.
“Yn anochel, gyda mwy o bobl yn y ddinas, bu cynnydd mewn allyriadau carbon a ffactorau niweidiol i’r amgylchedd. Ond o ganlyniad i ymchwil flaengar Prifysgol Caerdydd, rydym bellach yn ymdrechu i wneud yn siŵr bod dyfodol gwyrddach i’r digwyddiad.
Bydd Run 4 Wales yn parhau i ddatblygu uchelgeisiau amgylcheddol ac ystyried ffyrdd newydd o herio’r hen drefn yn niwydiant digwyddiadau torfol.
Mae’r digwyddiad hefyd yn cefnogi ymgyrch Rhedeg, Ail-lenwi, Ailgylchu gan Ailgylchu Dros Gymru mewn partneriaeth â Brecon Carreg Water am y bedwaredd flwyddyn yn olynol er mwyn annog cyfranogwyr i gael gwared ar eu gwastraff yn briodol ar ddiwrnod y ras.
Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rhan fawr o’n cyfranogiad yn Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd yw defnyddio ein harbenigedd i gefnogi trefnwyr Run 4 Wales i wneud yn siŵr bod y ras mor llwyddiannus - a chynaliadwy - â phosibl.
“Rwy'n falch iawn o weld mai Cynllun Gweithredu Gwyrdd yw un o ddeilliannau’r bartneriaeth hon, sy’n ymrwymo i sicrhau bod y digwyddiad yn cael cyn lleied o effaith ar yr amgylched â phosibl drwy gyfres o fentrau ystyrlon.
“Wrth gwrs, mae angen gwneud mwy gan fod y ras yn tyfu bob blwyddyn. Ond ar sail ein hymchwil, mae gwelliannau amgylcheddol sylweddol yn cael eu gwneud.”
I ddarllen yr adroddiad ‘Ras dros Gynaliadwyedd’ yn llawn ar wefan Hanner Marathon Caerdydd, dilynwch y ddolen.