Mewnwelediadau newydd ar gyfer darganfod y genhedlaeth nesaf o wrthfiotigau
5 Medi 2019
Mae cyhoeddiad newydd yn rhoi mewnwelediad i ryngweithio rhwng gwrthfiotigau a gyras DNA Staphylococcus aureus, gan helpu i greu darlun manylach o sut gallwn ni fynd i’r afael ag ymwrthedd microbig yn y dyfodol.
Mae ymwrthedd gwrthfiotig yn un o’r peryglon mwyaf i iechyd byd-eang yn yr oes fodern. Atalyddion Topoisomeras DNA: Mae dal Peiriant Hollti DNA wrth symud yn dangos sut gall cyffuriau wenwyno ensym sy’n ymwneud ag atgynhyrchu DNA i ladd bacteria.
Mae datblygiadhilion bacteri gwrthfiotig, megis MRSA, yn broblem fyd-eang. Mae’r cyhoeddiad newydd yn disgrifio adeileddau ensym o Staphylococcus aureus a elwir yn gyras DNA, sy’n dopoisomeras math IIA, wrth iddo ryngweithio â chyfansoddion DNA a gwrthfacterol.
Ensymau yw topoisomerasau math IIA sy’n hanfodol mewn prosesau sy’n galluogi dehongli ac atgynhyrchu’r cod genetig mewn DNA trwy gynorthwyo i wahanu’r edeifion DNA. Gall yr ensymau wneud toriad dros dro yn y DNA dwy edefyn.
Mae cyffuriau sy’n targedu gyrasau DNA mewn bacteria yn peri i’r celloedd farw trwy sefydlogi’r cadwyni DNA toredig.
Dywedodd Dr Ben Bax, o Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd: “Dengys ein hadeileddau sut mae cyfansoddion yn rhyngweithio â’r ensym a’r DNA. Gall yr wybodaeth hon helpu cemegwyr i addasu cyfansoddion i dargedu topoisomerasau math IIA yn fwy effeithiol.”
Er mwyn deall gweithrediad cyfansoddion, crynhodd yr ymchwilwyr 21 adeiledd cyhoeddedig o gyras DNA Staphylococcus aureus wrth ryngweithio â DNA ac amrywiaeth o gyfansoddion.
“Trwy greu darlun gwell o’r rhyngweithio rhwng cyfansoddion, topoisomerasau math IIA a DNA, gellir dylunio meddyginiaethau newydd sy’n targedu’r mecanwaith yn fwy effeithiol.
“Gan fod ymwrthedd gwrthfiotig yn un o’r problemau iechyd byd-eang mwyaf sy’n ein hwynebu, mae angen brys arnom ddod o hyd i feddyginiaethau newydd. Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yn y papur hwn yn sylfaen ar gyfer prosiect newydd sy’n ceisio datblygu therapïau newydd sy’n lladd bacteria niweidiol yn unig, heb effeithio ar y rhan fwyaf o’r bacteria diogel,” meddai Dr Ben Bax.